Mae sesiynau'r Academi TG wedi'u hamserlennu ar gyfer pob prynhawn Dydd Mercher yn ein Labordai TG ag adnoddau da ar gampws y Graig. Mae sesiynau'r Academi'n cynnwys Codio, Dylunio Gwefannau, Cymorth Technegol TG, Rhwydweithio a Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes. Yn fuan byddwn yn cyflwyno Seiber-Ddiogelwch a Chyfrifiadura Cwmwl.
Mae'r Academi'n galluogi myfyrwyr i dderbyn addysgu ychwanegol yn eu maes dewisol, ac mae'n darparu cyfleoedd i gystadlu yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi symud ymlaen drwy rowndiau rhanbarthol y DU i rownd derfynol UK Skills, yng nghanolfan NEC Birmingham. Mae rhai o'n myfyrwyr wedi cynrychioli'r Deyrnas Unedig ar lefel Ewropeaidd a Rhyngwladol hefyd, yng Nghystadlaethau Euro Skills a World Skills.
Cysylltwch â Denise Hudson i gael mwy o wybodaeth Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN