Anelir y cwrs hwn at ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i yrfa yn y diwydiant gofal anifeiliaid. Mae'r trywydd hwn yn darparu llwybr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant gofal anifeiliaid gan ddefnyddio cyfuniad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol.
Bydd sgiliau ymarferol yn amrywio o drin a ffrwyno anifeiliaid i lanhau eu llety. Ochr yn ochr â choleg, ymgymerir â phrofiad gwaith yn y cymhwyster hwn er mwyn i ddysgwyr ennill profiad o ddiwydiannau ar dir, sy'n amrywio o ffermydd i bractisiau milfeddygol.
Bydd dysgwyr sy'n cwblhau tystysgrif dechnegol lefel dau mewn gofal anifeiliaid yn gallu datblygu eu gyrfaoedd trwy ymgymryd â rolau megis twtwyr cŵn, cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes, gan gyflawni ystod o ddyletswyddau sy’n cynnwys glanhau a chynnal a chadw amrywiaeth o lety anifeiliaid.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Yn ystod y cymhwyster hwn, byddwch yn gweithio'n agos gyda'ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a thiwtoriaid cwrs yn y coleg.
Bydd disgwyl i chi fynychu'r coleg tua phedwar diwrnod yr wythnos ar gyfer sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol. Mae'r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.
Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn cynnwys:
Glanhau a chynnal llety anifeiliaid
Gwiriadau iechyd ar ystod o anifeiliaid
Deall ymddygiad anifeiliaid
Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â gwahanol feysydd o fewn diwydiannau ar dir
Cynnwys y Rhaglen
Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:
Cynnal iechyd a lles anifeiliaid
Bwydo a lletya anifeiliaid
Ymddygiad a thrin anifeiliaid
Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid
Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
Egwyddorion bioleg anifeiliaid
Nyrsio anifeiliaid
Cyflwyniad i ofalu am geffylau
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid.
Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae dilyniant o'r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cymhwyster lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid. Gall llwybrau cyflogaeth eraill ddeillio o'ch lleoliad profiad gwaith neu Ddiwydiannau ar Dir eraill.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau yn ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid y coleg, trwy ystod o arsylwadau a phrofion ar-lein i ategu agwedd theori’r cwrs. Cynhelir yr asesiadau ymarferol ar amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys mamaliaid bach, cŵn ac anifeiliaid mawr fel geifr a cheffylau.
Gofynion y Rhaglen
Cymhwyster lefel 1 gradd Teilyngdod neu Ragoriaeth neu bedwar TGAU gyda A*-D gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf
Rhaid gallu cael 150 awr o leoliad gwaith gyda lleoliad cychwynnol wedi'i drefnu cyn yr wythnos gynefino yn y coleg.
Bydd mynediad yn amodol ar gyfweliad yn ystod y cam cyfweld. Bydd yn rhaid i chi wneud prawf diagnostig ar eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. Bydd angen i chi ddarparu eich cyfarpar diogelu personol eich hun ar gyfer y cwrs, a fydd yn cynnwys welingtons a dillad glaw, ar gyfer gweithgareddau ymarferol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.