Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs Lefel 1 llawn amser ac mae'n gweithredu fel cyflwyniad i'r Diwydiannau Gofal Anifeiliaid. Asesir y cwrs trwy sesiynau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau arholiad a osodir yn allanol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Profiad ymarferol gydag ystod eang o anifeiliaid, gan gynnwys cwn, moch cwta, ymlusgiaid, amffibiaid, adar, gwartheg a cheffylau
Mae ymweliadau ac ymchwiliadau ymarferol yn ehangu’r profiad dysgu
Ystod o asesiadau gwahanol (sesiynau ymarferol, profion aml-ddewis, aseiniadau ysgrifenedig)
Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau sylfaenol mewn llythrenedd a rhifedd a’r cyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg
Gall profiad gwaith (60 awr) wella rhagolygon cyflogaeth
Mae Iechyd a Diogelwch yn rhan bwysig o'r cwrs a chaiff ei asesu'n ymarferol ac mewn prawf amlddewis byr ar-lein.
Cynnwys y Rhaglen
201 - Arferion gwaith diogel ac effeithiol mewn diwydiannau ar dir
202 - Paratoi i weithio yn y diwydiannau ar dir
216 - Cynorthwyo gyda chynnal iechyd a lles anifeiliaid
224 - Anifeiliaid yn y gwyllt a’u prif nodweddion
226 - Cynorthwyo gyda bwydo a dyfrhau anifeiliaid
227 - Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal a chadw llety anifeiliaid
228 - Cynorthwyo gyda thrafod a ffrwyno anifeiliaid
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol i unrhyw un sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiannau Gofal Anifeiliaid. Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu i’r Diploma Lefel 2 Gofal Anifeiliaid. Mae cyfleoedd gwaith yn cynnwys cynorthwywyr gofal anifeiliaid mewn siopau anifeiliaid anwes, cyndai a chathdai preswyl ac achub.
Asesu'r Rhaglen
Asesir ar ffurf asesiadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau brawf amlddewis ar-lein.
Gofynion y Rhaglen
Tair gradd TGAU A*-G neu gyfwerth, geirda da a chyfweliad llwyddiannus. Bydd y rhai heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, tystlythyrau a phrawf mynediad.
Costau Ychwanegol
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons a’u dillad dal dŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.