Disgrifiad o'r Rhaglen


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs Llawn Amser: 02XD

Côd Cwrs Atodol Lefel 6 Llawn Amser:  02XX

Cynigir y rhaglen BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn llawn amser neu'n rhan-amser. Gydag ychwanegiad Lefel 6 ar gyfer graddedigion sydd â Gradd Sylfaen neu HNC/HND mewn pynciau Anifeiliaid.

Mae'r cwrs yn darparu'r cyfle i astudio ymddygiad, ffisioleg a lles anifeiliaid a sut y gall addasiadau esblygol ac ysgogiadau amgylcheddol effeithio ar oroesiad, ymddygiad ac iechyd.

Caiff astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid  ei chymhwyso i wella hyfforddiant, gofal a rheoli lles anifeiliaid, a chaiff ei defnyddio mewn cadwraeth rhywogaethau brodorol a rhai byd-eang sydd mewn perygl.

Mae'r BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn caniatáu cyfle i israddedigion ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol sylfaenol moeseg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso'r wybodaeth hon i les a chadwraeth.    

Cipolwg

  Llawn Amser neu rhan amser

  3 blynedd llawn amser, 5 mlynedd rhan-amser ar gyfer pob lefel. Blwyddyn llawn amser neu dwy flynedd rhan-amser ar gyfer yr opsiwn atodol Lefel 6.

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


  • Mae'r modd y cyflwynir y cwrs yn caniatáu llwybr i Radd Anrhydedd gyda'r hyblygrwydd o ddysgu'n llawn amser neu'n rhan-amser.
  • Mae'r myfyrwyr sy'n dod i'r coleg yn cael mynediad i gyfleusterau eang ar y safle gan gynnwys canolfan anifeiliaid yn lletya ystod eang o rywogaethau anifeiliaid, yn ogystal â deunyddiau dysgu ac ymchwil ar-lein. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i wneud cryn dipyn o astudio annibynnol y tu allan i'r coleg a chyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
  • Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud â gwaith ymchwil annibynnol mewn maes pwnc sydd o ddiddordeb penodol iddynt, yn ogystal â modiwlau'n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.

Cynnwys y Rhaglen


Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol: -

Gorfodol:

  • Cynnal iechyd a lles anifeiliaid
  • Bwydo a lletya anifeiliaid
  • Ymddygiad a thrin anifeiliaid
  • Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid
  • Iechyd a Diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
  • Egwyddorion bioleg anifeiliaid

Modiwlau Opsiynol:

Dewis o un o’r opsiwn canlynol: -

  • Gofalu am geffylau
  • Cyflwyniad i ofalu am anifeiliaid fferm

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid.  Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif
  • TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg

Dilyniant a Chyflogaeth


Côd UCAS: C22

Côd Cwrs Llawn Amser: 02XD

Côd Cwrs Atodol Lefel 6 Llawn Amser: 02XX

Cynigir y rhaglen BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn llawn amser neu'n rhan-amser. Gydag ychwanegiad Lefel 6 ar gyfer graddedigion sydd â Gradd Sylfaen neu HNC/HND mewn pynciau Anifeiliaid.

Mae'r cwrs yn darparu'r cyfle i astudio ymddygiad, ffisioleg a lles anifeiliaid a sut y gall addasiadau esblygol ac ysgogiadau amgylcheddol effeithio ar oroesiad, ymddygiad ac iechyd.

Caiff astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid  ei chymhwyso i wella hyfforddiant, gofal a rheoli lles anifeiliaid, a chaiff ei defnyddio mewn cadwraeth rhywogaethau brodorol a rhai byd-eang sydd mewn perygl.

Mae'r BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn caniatáu cyfle i israddedigion ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol sylfaenol moeseg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso'r wybodaeth hon i les a chadwraeth.    

Asesu'r Rhaglen


Mae'r asesu'n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau unigol ac yn cynnwys: 

Traethodau; Cyflwyniadau; Adroddiadau Ysgrifenedig; Adroddiadau Astudiaeth Achos; Arholiadau; Ymchwil/arsylwadau Ymarferol Annibynnol; Portffolios Ymchwil; Cyflwyniadau Seminar.

Gofynion y Rhaglen


Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sydd yn dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen.

Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch ac 16 pwynt UCAS. 

Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dechrau astudio ar Lefel 4 fod â chymhwyster Lefel 3 gyda gradd bas neu uwch ac yn ddelfrydol byddant wedi ymgymryd â pheth profiad gwaith gydag anifeiliaid.

Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau cofrestru'n uniongyrchol ar Lefel 6 ar gyfer yr opsiwn 'atodol' y gofynion mynediad yw Gradd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid neu HND mewn Astudiaethau Anifeiliaid, a'u bod wedi cyflawni modiwlau addas ar gyfer gwneud cais am achredu ardystiad blaenorol.

Caiff myfyrwyr hyn eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau diwydiannol perthnasol a phrofiad.

Gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt wedi cyflawni HND neu Radd Sylfaen pan fyddant yn ymgeisio i ymgymryd ag astudiaethau ar Lefel 4 a 5 cyn symud ymlaen i fodiwlau BSc Lefel 6.

 

Costau Ychwanegol


Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.