Mae'r cwrs lefel dau hwn yn gyflwyniad i reolaeth ceffylau a stablau ar gyfer y rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen i gwrs rheolaeth ceffylau a stablau lefel tri. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau'r dysgwr ac mae'n darparu gwybodaeth helaeth yn ymwneud â cheffylau a'r diwydiant ceffylau. Mae dysgwyr yn astudio theori yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol yn iard gystadlu’r coleg sy’n ganolfan arholi Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Mae gan yr iard amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi'n dda a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant mewn dressage a neidio ceffylau. Caiff myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gynhelir gan y coleg ac i dderbyn hyfforddiant oddi wrth hyfforddwyr ac arholwyr Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).
Mae'r cwrs yn cynnwys uned brofiad gwaith orfodol sy'n golygu 150 o oriau o brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn mewn canolfan geffylau addas. Darperir cyfleoedd hefyd i sefyll TGAU mewn Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu'r Gymraeg.
Yn ogystal bydd y dysgwr yn cael y cyfle i sefyll arholiadau cam un Cymdeithas Ceffylau Prydain a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd pan fydd yn cyrraedd y safon ofynnol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Iard gystadlu gyda cheffylau wedi'u dysgu ar gyfer dressage a neidio
Cyfle i sefyll Arholiadau Cam BHS a'r Prawf Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffyrdd fel rhan o'r cwrs
Amgylchedd cefnogol i ddatblygu eich sgiliau
Mae profiad gwaith a Sgiliau Hanfodol yn cynyddu eich siawns o gael gwaith ar ôl cwblhau'r cwrs
Cyfleoedd i gystadlu ar eich ceffyl eich hun neu geffylau'r coleg
Darperir cymorth dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thrwy sesiynau wythnosol yn y Parth Astudio os oes angen.
Mae tiwtorialau rheolaidd yn monitro cynnydd ar y cwrs
Cynnwys y Rhaglen
Unedau Craidd:
Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
Gweithio yn y diwydiant ceffylau
Iechyd a lles ceffylau
Tac a chyfarpar ceffylau
Ymgymryd â dyletswyddau rheolaidd y stabl
Egwyddorion bwydo a dyfrio ceffylau
Trin a gwastrodi ceffylau
Cyflwyniad i arwain ceffylau
Unedau Opsiynol:
Marchogaeth ceffylau ar y fflat
Cadw ceffylau ar laswellt
Ymddygiad ceffylau
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda theilyngdod neu uwch symud ymlaen i ddiploma estynedig lefel tri mewn rheolaeth ceffylau a stablau neu i gyflogaeth.
Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill. Caiff arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain eu cydnabod gan y diwydiant ar draws y byd.
Asesu'r Rhaglen
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.
Arholiad theori diwedd y flwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Mae arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain yn seiliedig ar waith ymarferol ac ar theori. Gellir ymgymryd â'r adran gwybodaeth a gofal ceffylau ynghyd â'r adran farchogaeth yn Uned Geffylau Campws Pibwrlwyd y coleg.
Gofynion y Rhaglen
Tri TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU (A* i C) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg) a chyfweliad ac asesiad marchogaeth llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.