Disgrifiad o'r Rhaglen


Rhaglen rheolaeth ceffylau lefel tri dwy flynedd yw hon wedi'i lleoli ar iard gystadlu a chanolfan asesu BHS y coleg.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn rheolaeth ceffylau.  Mae'r cwrs yn anelu at ddatblygu sgiliau ymarferol y dysgwr a thanategu'r rhain ag egwyddorion theori ystod o bynciau megis iechyd ceffylau, anatomeg a maetheg, hwsmonaeth ceffylau a rheolaeth iard.  Mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad profiad gwaith gorfodol o 150 o oriau yn ogystal â gweithgareddau cyfranogiad cyflogwyr gorfodol. 

Fel rhan o'r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn adeiladu ar sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd a darperir cyfleoedd ar gyfer gwneud TGAU mewn Saesneg a mathemateg.  Yn ogystal datblygir dwyieithrwydd y dysgwr. 

Ochr yn ochr â'r cwrs, bydd y cyfle i sefyll arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) a gydnabyddir gan y diwydiant yn amodol ar gyrraedd y safon ofynnol. 

Mae'r cwrs hwn yn rhoi i’r dysgwr y cymhwyster sydd ei angen i fynd ymlaen ac i astudio ar lefel addysg uwch. 

Cipolwg

  Llawn Amser

  2 Flynedd

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Mae’r cwrs yn cynnwys astudiaethau academaidd yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol ar iard y coleg. Mae gan y coleg iard gystadlu gydag amrywiaeth o geffylau wedi'u gwastrodi mewn amrywiol ddisgyblaethau. Mae gan yr iard arena dan do ac arena awyr agored ynghyd ag amrywiol gyfleusterau rheoli a hyfforddi. 

Fel rhan o'r cwrs, caiff y dysgwyr gyfle i redeg a chymryd rhan mewn cystadlaethau cyswllt a digyswllt a gynhelir yn y coleg. 

Mae Coleg Sir Gâr yn ganolfan arholi a hyfforddi gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) sy'n cyflwyno a pharatoi dysgwyr ar gyfer asesiadau BHS mewn marchogaeth cyflawn o gam un i gam pedwar yn ogystal ag asesiadau a hyfforddiant y cynllun Marchogaeth Diogel.  Hefyd bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn diwrnodau hyfforddiant ac arddangosiadau BHS. 

Mae'r cwrs yn cynnwys ymweliadau â sefydliadau ceffylau arbenigol yn ogystal â darlithoedd ac arddangosiadau gan siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant fel rhan o gyfranogiad cyflogwyr gorfodol. 

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn cael profiad o ddysgu dwyieithog.

Cynnwys y Rhaglen


Blwyddyn 1 

Unedau Craidd: 

  • Egwyddorion Iechyd a Diogelwch 
  • Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir a’i Adolygu   
  • Ymgymryd â Gweithrediadau Iard Stablau 
  • Iechyd Ceffylau 
  • Tac a Chyfarpar Ceffylau 
  • Systemau Biolegol Ceffylau 
  • Paratoi Ceffylau ar gyfer eu Cyflwyno 
  • Bwydo a Maetheg Ceffylau 
  • Ymddygiad a Lles Ceffylau 

Unedau Opsiynol: 

Ymarfer ceffylau neu Sgiliau ystâd

Blwyddyn 2

Unedau Craidd: 

  • Gweithio a hyfforddi ceffylau o'r llawr 
  • Egwyddorion marchogaeth 
  • Cyfrannu at reoli digwyddiad ceffylau 
  • Egwyddorion ffitrwydd ceffylau 
  • Rheolaeth busnes yn y sector Ar Dir 
  • Unedau Opsiynol: 
  • Marchogaeth ceffylau ar y fflat
  • Marchogaeth ceffylau dros ffensys / Rheoli Prosiectau Arbenigol
  • Adsefydlu Ceffylau
  • Egwyddorion gwastrodi ar gyfer cystadlaethau 
  • Egwyddorion rheolaeth glaswelltir 

Cymwysterau Ychwanegol: 

Asesiadau Marchogaeth BHS a Marchogaeth Diogel 

Dilyniant a Chyflogaeth


Caiff myfyrwyr llwyddiannus y cyfle i fynd ymlaen i addysg uwch, er enghraifft cyrsiau gradd sylfaen llawn amser neu ran-amser, neu i gamu i yrfaoedd megis rheolaeth iard, gwaith gre, y diwydiant rasio neu wasanaethau cynghori. 

Mae'r cwrs diploma estynedig ac arholiadau BHS dethol yn cario pwyntiau UCAS, gan alluogi'r dysgwr i wneud cais am gyrsiau addysg uwch. 

Asesu'r Rhaglen


Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio'n fewnol a'u cymedroli'n allanol.

Arholiad theori diwedd y flwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.

Dyddiadur lleoliad gwaith a gaiff ei farcio'n fewnol a'i gymedroli'n allanol.

Mae arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS) yn asesiadau ymarferol mewn gwybodaeth marchogaeth a cheffylau ac adrannau gofal.

Gofynion y Rhaglen


Pedwar TGAU A*- C (gan gynnwys mathemateg, Saesneg neu Gymraeg) neu gymhwyster lefel dau mewn pwnc perthnasol i lefel teilyngdod. 



Costau Ychwanegol


Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, PPE ar gyfer sesiynau ymarferol a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.