Mae myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl ar-lein hwn yn archwilio’r berthynas rhwng anifeiliaid a’r amgylchedd, gwyllt a chaeth, ac yn datblygu ymwybyddiaeth o sail wyddonol astudio ymddygiad anifeiliaid, ac i gysylltu hyn â'r ymatebion ymddygiadol i'w hamgylchedd.
Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am gysyniadau allweddol yr ymatebion a wneir gan anifeiliaid i’w hamgylchedd ac yn gallu trafod yr achosion a datblygiad y prif batrymau ymddygiad. Byddant yn gallu esbonio ymddygiad anifeiliaid mewn perthynas â goroesi, gwerth ffitrwydd, ac iechyd a lles.
Cipolwg
Rhan Amser
Un semester
Ar-lein
Nodweddion y Rhaglen
Deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Mynediad i gyfleusterau ar-lein lefel uchel yng Ngholeg Sir Gâr a PCYDDS ar gyfer deunyddiau dysgu ac ymchwil.Bydd myfyrwyr yn cael cymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un gosodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Cynnwys y Rhaglen
Rhesymau dros astudio ymddygiad; hanes yr astudiaeth o ymddygiad; moeseg ac astudio ymddygiad.
Ymddygiad a dethol naturiol; esblygiad ac addasiad; geneteg ac etifeddiaeth.
Ymddygiad mewn grwpiau cymdeithasol: costau; buddion; ymddygiadau cymunedol (anhunanol).
Ymddygiadau porthi a bridio; carwriaeth, gofal rhieni ac adnabod ceraint.
Ymddygiadau tiriogaethol: cyfathrebu i ddatrys gwrthdaro; signalau; anatomeg synhwyraidd.

Agweddau gofodol ar ymddygiad: dethol cynefin; mudo; gwasgaru; cydlynu; llywio.
Dehongli data arsylwi ymddygiad sylfaenol, cynhyrchu a chymharu graffiau cyllideb amser.
Dilyniant a Chyflogaeth
Modiwl opsiynol yw’r modiwl hwn ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gwyddor Anifeiliaid Lefel 4 a gall gyfrannu at y dyfarniad terfynol neu gael ei astudio ar ei ben ei hun.
Byddai’r modiwl o fudd i unrhyw un sydd ar hyn o bryd/neu sy’n anelu at weithio yn y diwydiant anifeiliaid a gallai ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig.
Asesu'r Rhaglen
Deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Portffolio o dasgau ac asesiadau o bob sesiwn a phortffolio arsylwi ymddygiad ac ymchwil ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n arddangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o astudio’r modiwl. Bydd myfyrwyr sy’n cychwyn astudio yn cael eu hystyried os oes ganddynt gymhwyster Lefel 3 neu sydd wedi gweithio’n flaenorol ar safon lefel 3. Mae angen i fyfyrwyr fod dros 18 oed.
Bydd myfyrwyr hyn (dros 21 oed) yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Costau Ychwanegol
Mae ffioedd yn berthnasol ac yn cyfateb i ffioedd presennol y coleg ar gyfer modiwl addysg uwch 20 credyd. Gellir dod o hyd i hyn ym mholisi ffioedd addysg uwch y coleg.
Does dim ffi costau ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.