Dylai myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ennill gwerthfawrogiad o egwyddorion ac arferion rhoi cymorth cyntaf i anifeiliaid mewn ystod o rywogaethau, ynghyd â dealltwriaeth o’r dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol.
Mae’r modiwl yn cynnwys 10 sesiwn astudio ar wahân, a phob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol wedi’u cynllunio’n benodol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Mae’r modiwl o fudd i unrhyw un sy’n berchen ar anifeiliaid neu sy’n bwriadu gweithio gydag anifeiliaid. Bydd y wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir fel rhan o'r modiwl hwn hefyd yn tawelu meddwl cwsmeriaid unrhyw fusnes anifeiliaid bach megis twtwyr anifeiliaid anwes, cyndai a chathdai, rhai sy’n gwarchod a cherdded cŵn fod eu hanifeiliaid anwes yn cael eu diogelu. Fel y cyfryw, gall y modiwl hwn ffurfio rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus cydnabyddedig unrhyw weithiwr mewn busnes o’r fath.
Bydd y rheiny sy'n cymryd y cwrs e-ddysgu hwn yn cael tua 200 awr ddysgu dan gyfarwyddyd o hyfforddiant. Hefyd profir eich gwybodaeth gan gyfres o asesiadau ar gwblhau pob un o'r modiwlau.
Ar gwblhau’r cwrs drwy’r llwybr asesiad ar-lein, byddwch yn cael adysgrif o gyflawniad modiwl Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.