Skip to main content

Prentisiaeth Uwch mewn Astudiaethau Ceffylau Lefel 4 - Rheolaeth Iard

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.  

Y llwybr dysgu ar gyfer y rhaglen hon yw rheolaeth iard. Ar hyn o bryd, mae’r llwybr hwn yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau.

Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol.  Dylai dysgwyr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaethau Uwch lefel pedwar o fewn 18 mis.

Nodweddion y Rhaglen

Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).

Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.

Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)

Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.

Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 4 BHSQ Rheolaeth Gofal Ceffylau
  • Tystysgrif Lefel 4 BHSQ mewn Egwyddorion Gofal a Rheolaeth Ceffylau
  • Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
  • Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Lefel 2)
  • Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.

Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:

  • Gosod a Gwerthuso tac arbenigol
  • Ffisioleg Ceffylau
  • Rheoli busnes ceffylau
  • Maeth Ceffylau
  • Asesu iechyd a chydffurfiad ceffylau
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae gan ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth uwch lefel pedwar y cyfle i symud ymlaen yn y diwydiant neu i gyrsiau addysg uwch fel graddau sylfaen neu raddau mewn rheolaeth ceffylau, gwyddor ceffylau, astudiaethau ceffylau, hyfforddiant ac ymddygiad ceffylau.

Dull asesu

Arholiad BHSQ cam 4 gofal a rheolaeth ceffylau y mae modd ei sefyll ar gampws Pibwrlwyd, Coleg Sir Gâr.  Bydd dysgwyr ar y cwrs hwn yn cael eu hasesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.

Gofynion Mynediad
  • BHS Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
  • BHSQ Lefel 3 Gwastrawd
  • Prawf AH y Pony Club
  • Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
  • Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol tra’n astudio ar y cwrs heblaw bydd gofyn i'r dysgwr brynu Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain cyn cymryd rhan mewn  unrhyw arholiadau BHS.  Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu a’ch cyfarpar personol eich hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.