Cynigir y Dystysgrif Addysg Uwch Gwyddor Anifeiliaid lefel pedwar drwy ddysgu o bell a chaiff ei hastudio 100% ar-lein, yn llawn amser a rhan-amser. Ar gwblhau’r dystysgrif hon mae cyfle i symud ymlaen i astudio lefel pump ar y campws ar gyfer y radd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid neu’r radd BSc anrhydedd mewn ymddygiad a lles anifeiliaid.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy ddysgu o bell ddatblygu gwybodaeth graidd a sgiliau allweddol sy'n ofynnol i israddedigion sy'n anelu at weithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid neu sydd eisoes yn gweithio ynddynt. Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio gartref ar amser sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw er mwyn datblygu ystod o sgiliau, nodweddion ac agweddau personol sy’n angenrheidiol i weithio ym maes gwyddor anifeiliaid yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso’r wybodaeth hon i les anifeiliaid, hwsmonaeth a chadwraeth.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan-amser
Blwyddyn yn Llawn amser / Dwy flynedd yn Rhan-amser
Ar-lein
Nodweddion y Rhaglen
Gall myfyrwyr gofrestru i astudio naill ai ym mis Medi, mis Ionawr neu fis Mai. Mae angen i fyfyrwyr gwblhau chwe modiwl i gyflawni’r cymhwyster. Mae myfyrwyr rhan-amser yn gwneud un modiwl bob semester, am dri semester y flwyddyn dros ddwy flynedd. Mae myfyrwyr llawn amser yn gwneud dau fodiwl y semester am dri semester mewn blwyddyn.
Mae pob modiwl yn cynnwys deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo'r dysgwr o bell i ddatblygu'r wybodaeth greiddiol a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau'r asesiadau.
Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau ar-lein helaeth gan gynnwys deunyddiau dysgu ar-lein a deunyddiau ymchwil llyfrgell Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Moodle Amgylchedd Dysgu Rhithiol a Google Classrooms ategol y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud ag ymchwil annibynnol mewn meysydd pwnc allweddol, yn ychwanegol at fodiwlau sy’n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r modiwlau gorfodol yn cynnwys: Maetheg Anifeiliaid, Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid, Paratoi at weithio yn y Diwydiant Gofal Anifeiliaid a Sgiliau Astudio.
Mae modiwlau ychwanegol yn cynnwys: Cyflwyniad i Ymddygiad Anifeiliaid, Rheolaeth Ymlusgiaid ac Amffibiaid a Bioleg Forol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r dystysgrif gall myfyrwyr llwyddiannus wneud cais i symud ymlaen i lefel pump y radd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid a graddau anrhydedd. Mae’r llwybrau cyflogaeth yn amrywiol gan gynnwys gwaith sŵ, anifeiliaid anwes, da byw a gwaith cadwraeth.
Asesu'r Rhaglen
Mae'r asesu'n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau ar-lein unigol ac yn cynnwys:
Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen. Bydd angen cymhwyster lefel tri gyda gradd pas neu uwch ar fyfyrwyr sy'n dechrau astudio ac yn ddelfrydol byddant wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith gydag anifeiliaid neu bydd ganddynt brofiad neu ardystiad cyfatebol yn y diwydiant. Mae angen i fyfyrwyr fod dros 18 oed.
Bydd myfyrwyr hŷn (dros 21 oed) yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Costau Ychwanegol
Mae’r cwrs addysg uwch yn gymwys i gael cymorth ariannol drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae’r ffioedd yr un peth â’r ffioedd addysg uwch safonol a gellir dod o hyd iddynt ym mholisi ffioedd AU y coleg.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.