Skip to main content

Busnes, Marchnata a Chyllid Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn neu 2 flynedd

  • Campws y Graig 

I'r rheiny sy'n frwdfrydig ynghylch busnes neu ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain dyma'r cwrs, a ddatblygwyd gan Peter Jones o Dragon's Den, i chi.

Mae’r cwrs galwedigaethol hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau ymestyn eu profiad ym maes busnes neu ddod yn entrepreneur llwyddiannus.

Mae'n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ystod o feysydd busnes i'ch helpu i adnabod cyfle busnes posibl a datblygu eich busnes eich hun.  Caiff dysgwyr eu cefnogi gan hybwr entrepreneuraidd y coleg sy'n eich annog i ddatblygu eich syniadau busnes ac yn trefnu ymweliadau â busnesau lleol i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio yn ogystal â darparu digwyddiadau i annog entrepreneuriaeth a chreu ymwybyddiaeth o fyd busnes.   

Anogir pob dysgwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau megis cystadlu mewn cystadlaethau fel Bwrsariaeth y Goleudy.

Nodweddion y Rhaglen

Datblygwyd y cymhwyster hwn gan Peter Jones o Dragon's Den i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol ac i roi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi. Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a'u trafod yn yr ystafell ddosbarth.   Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn.  Mae cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n gallu arwain i hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu i’r brifysgol.

Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau diploma sylfaen cenedlaethol ym mlwyddyn un a diploma estynedig cenedlaethol mewn menter ac entrepreneuriaeth ym mlwyddyn dau, sy’n cynnwys 12 uned. Astudir ystod o unedau sy’n cynnwys menter ac entrepreneuriaid, datblygu ymgyrch farchnata, cyllid busnes a phersonol, lansio a rhedeg menter, gwneud penderfyniadau busnes ac egwyddorion rheolaeth. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy'n gysylltiedig â busnes a dilyniant i addysg uwch.

Mae symud ymlaen o ddiploma sylfaen cenedlaethol blwyddyn un i ddiploma estynedig blwyddyn dau yn dibynnu ar fyfyrwyr yn dangos presenoldeb da, gwaith o ansawdd cyson, cyfweliad llwyddiannus a geirda tiwtor.

Dull asesu

Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy'n cynnwys arholiadau, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar: O leiaf pum TGAU graddau A* - C neu gyfwerth sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg, neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn pwnc galwedigaethol perthnasol ar deilyngdod neu uwch yn llwyddiannus.

Bydd angen i'r TGAU Saesneg neu Fathemateg fod ar radd B o leiaf. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.