Skip to main content

Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae hwn yn gwrs lefel pump a anelir at benaethiaid adrannau, rheolwyr cyffredinol a rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol.  Mae’n ddelfrydol os ydych chi am ddatblygu gwybodaeth fusnes arbenigol a sgiliau technegol.  

Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau, ac yn manteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.   Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial, pris ar gael ar gais.



Cipolwg

  Rhan Amser

  2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


  • Gwella galluoedd rheolaeth craidd
  • Datblygu gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, fel cyllid a marchnata
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun fel arweinydd
  • Profi y gallwch chi gael effaith fesuradwy ar eich sefydliad trwy brosiectau ac asesiad seiliedig ar y gweithle.

Cynnwys y Rhaglen


Mae’r rhaglen yn cynnwys naw uned:

  • Deall y Rôl Rheolaeth i Wella Perfformiad Rheolaeth
  • Datrys problemau drwy Wneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Datblygu Meddwl Beirniadol
  • Arwain Arloesedd a Newid
  • Rheoli a Gweithredu Newid yn y Sefydliad
  • Dod yn Arweinydd Effeithiol
  • Rheoli Prosiectau yn y Sefydliad
  • Rheoli Gwelliant
  • Cyflwyno Achos Ariannol

Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Dilyniant a Chyflogaeth


Y canlyniadau i chi:

  • Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasau cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr:

  • Adeiladu arferion rheolaeth cynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir
  • Meincnodi gwybodaeth a galluoedd rheolwyr
  • Annog staff i reoli eu dilyniant gyrfaol yn rhagweithiol ar gyfer cynllunio olyniaeth ac i ddatblygu’r ffrwd  ddoniau

Asesu'r Rhaglen


Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Costau Ychwanegol


Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.