Skip to main content

Tystysgrif ILM mewn Arwain Tîm Lefel 2

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr tîm newydd ac uchelgeisiol.  Mae’n rhoi cyflwyniad manwl i rôl a chyfrifoldebau arweinydd tîm.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Nodweddion y Rhaglen

Sesiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol.  Caiff cyflwyniad y cwrs ei deilwra at anghenion y grŵp.  Mae’n fwyaf tebygol mai dysgu cyfunol fydd yr opsiwn a ffefrir. 

Cynnwys y Rhaglen

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pynciau megis Datblygu eich hun fel Arweinydd Tîm, Gwella Perfformiad y Tîm Gwaith a Chynllunio a Monitro Gwaith.  Mae ystod eang o opsiynau ar gael sy'n cynnwys gwasanaeth cwsmer, datrys problemau, agweddau cyfreithiol, gwneud penderfyniadau ac arferion cyfathrebu.

Bydd yr unigolyn yn elwa o ddysgu sgiliau craidd i arwain tîm yn llwyddiannus, technegau cymhelliant ac ennill yr hyder i fynd i’r afael â materion anodd.   Bydd cyflogwyr yn gweld eu staff yn datblygu eu potensial ac yn dod yn gymwys wrth reoli pobl a pherthnasoedd.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:

  • Dyfarniad neu Dystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Dull asesu

Ymgymerir ag asesiadau ffurfiol fel aseiniadau, cwestiynau ac atebion neu adroddiadau myfyriol ynghyd â thystiolaeth o gynnyrch.

Gofynion Mynediad

Diddordeb mewn symud i mewn i rôl reoli neu eisoes mewn rôl arwain tîm.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.