Pwrpas y cwrs AAT hwn yw darparu’r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol i fyfyrwyr sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen naill ai i gyflogaeth mewn rôl gyfrifyddu neu gyllid, neu i alluogi dilyniant i astudiaeth bellach mewn cyfrifeg a chyllid. Mae'r cymhwyster hwn yn llwybr dilyniant i fyfyrwyr sydd wedi ennill Tystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rheiny sydd ar lefel ganolradd sy’n edrych i ddatblygu eu sgiliau mewn cyfrifyddu, neu i’r rheiny sydd eisoes wedi dechrau gweithio ym maes cyllid ac sydd ag angen ac awydd i ennill cydnabyddiaeth ffurfiol o’u sgiliau.
Cipolwg
Rhan Amser
12 mis
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda er mwyn mynd ymlaen i yrfa mewn busnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol, neu i addysg bellach. Bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Byddant hefyd yn deall yr amgylchedd busnes, materion busnes sy’n ymwneud â chyflogres a threth ar werth (TAW), technegau cyfrifon rheoli, arferion moesegol ac ystyriaethau cynaladwyedd ar gyfer cyfrifwyr.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol, mae’r pris ar gael ar gais.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall y sgiliau a ddatblygir trwy’r cymhwyster hwn arwain at waith fel:
cynorthwy-ydd cyfrifon
goruchwyliwr cyfrifon taladwy a threuliau
clerc cyfrifon taladwy
cyfrifydd cynorthwyol
archwiliwr dan hyfforddiant
rheolwr credyd
cynorthwy-ydd cyllid
swyddog cyllid
goruchwyliwr cyflogres
ceidwad cyfrifon proffesiynol
uwch geidwad cyfrifon
cynorthwy-ydd treth.
Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael eu cofrestru fel ceidwad cyfrifon cymwysedig, neu symud ymlaen i lefel Broffesiynol a dod yn aelod llawn o’r AAT ar ôl cyflawni meini prawf yr aelodaeth gyswllt. Mae hefyd yn darparu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gefnogi sefydlu busnes iach.
Asesu'r Rhaglen
Mae'r asesiadau ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser. Mae pob un yn cynnwys ystod o fathau o gwestiynau a fformatau, er enghraifft cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr. Bydd rhai asesiadau yn gofyn am atebion ysgrifenedig, yn arbennig yr asesiad synoptig.
Gofynion y Rhaglen
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau o lwyddiant, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a mathemateg. Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol. Mae AAT yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio gwiriad AAT Skill trwy aatskillcheck.org i sicrhau eu bod yn barod i gychwyn ar gymhwyster penodol.
Costau Ychwanegol
Codir tâl ychwanegol am ailsefyll unrhyw arholiadau
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.