Skip to main content

Prentisiaeth Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifyddu

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae’r brentisiaeth AAT yn fframwaith lefel 3 ar gyfer unigolion sy’n dilyn gyrfa mewn cyfrifeg.

Mae prentisiaeth yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd.  Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr).  Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.

Cipolwg

  Rhan Amser

  12 mis

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda er mwyn mynd ymlaen i yrfa mewn busnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol, neu i addysg bellach.   Bydd myfyrwyr yn dysgu a meistroli prosesau ariannol.

Cefnogir dysgwyr gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr fydd yn monitro cynnydd yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser.  Hefyd byddan nhw’n asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol.   Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.   Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.


Dilyniant a Chyflogaeth


Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o dasgau cyfrifyddu cymhleth, yn cynnwys cadw cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni treth.  Mae’n cynnwys pedair uned orfodol:

  • Ymwybyddiaeth Fusnes 
  • Cyfrifyddu Terfynol: Paratoi Datganiadau Ariannol
  • Technegau Cyfrifon Rheoli 
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnesau


Caiff pob un o’r pedair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur. 

Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 2 (Gall eithriadau fod yn berthnasol).

Asesu'r Rhaglen


Mae'r asesiadau ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.   Mae pob un yn cynnwys ystod o fathau o gwestiynau a fformatau, er enghraifft cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.   Bydd rhai asesiadau’n gofyn am atebion ysgrifenedig.

Gofynion y Rhaglen


Argymhellir y bydd prentisiaid lefel tri, nad ydynt wedi cyflawni prentisiaeth lefel dau mewn cyfrifyddu, angen cymwysterau TAG Safon Uwch, neu uwch, neu brofiad perthnasol, ynghyd â TGAU mathemateg a Saesneg graddau A*- C neu Sgiliau Hanfodol cyfwerth.

Bydd sgiliau cyfathrebu da ac unrhyw brofiad galwedigaethol mewn cyfrifyddu o gymorth enfawr (mae ymchwil wedi dangos bod pobl heb y profiad hwn yn debygol o brofi anawsterau o ran cwblhau’r fframwaith os byddant yn mynd i mewn i’r brentisiaeth ar lefel tri).  Cysylltwch â ni am wybodaeth ynghylch addasrwydd personol ar gyfer yr hyfforddiant. 

Costau Ychwanegol


Bydd yn ofynnol i ddysgwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.