Prentisiaeth; AAT Cyfrifyddu Lefel 4 - Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae prentisiaeth uwch AAT yn fframwaith lefel pedwar ar gyfer unigolion a hoffai ddatblygu eu sgiliau cyfrifyddu a chyllid i lefel broffesiynol.

Mae’r brentisiaeth hon yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sy'n gweithio mewn rôl gyllidol ac sydd am adeiladu ar eu sgiliau neu ennill cydnabyddiaeth ffurfiol amdanynt neu fynd ymlaen i astudio ar gyfer statws siartredig.    Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr).  Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni Fframwaith Prentisiaeth Uwch lefel pedwar o fewn y raddfa amser a gytunwyd.

Cipolwg

  Rhan Amser

  Bydd cwblhau’r fframwaith prentisiaeth uwch yn cymryd hyd at 16 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Mae Diploma’r AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel.   Bydd myfyrwyr yn edrych ar ac ymgyfarwyddo ag ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheolaeth ariannol.

Bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser.  Hefyd byddan nhw’n asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol.   Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae gwybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.


Dilyniant a Chyflogaeth


Ar ôl cymhwyso, bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau cyswllt o’r AAT yn awtomatig a byddant, gyda phrofiad gwaith perthnasol, yn gymwys i gael aelodaeth AAT lawn, a fydd yn caniatáu iddynt ddefnyddio'r llythrennau MAAT ar ôl eu henw.

Gall sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel: 

  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol, 
    • Cyfrifydd Cynorthwyol Rheoli
    • Dadansoddwr Masnachol 
    • Rheolwr Cyflogres 
    • Uwch Geidwad Cyfrifon
    • Uwch Swyddog Ariannol
    • Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Threuliau 
    • Cyfrifydd Cynorthwyol Ariannol 
    • Cyfrifydd Cost  
    • Rheolwr Treth Anuniongyrchol 
    • Rheolwr Taliadau a Biliau 
    • Uwch Gyfrifydd Cronfa 
    • Goruchwyliwr Treth 

Asesu'r Rhaglen


Mae Diploma’r AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cwmpasu’r unedau canlynol:

  • Cyfrifon Rheoli Cymhwysol 
  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
  • Systemau a Rheolaethau Cyfrifyddu Mewnol
  • Treth Bersonol 
  • Archwilio a Sicrwydd 


Caiff y pum uned hyn eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif ar lefel dau (Gall eithriadau fod yn berthnasol).

Gofynion y Rhaglen


Byddai angen unrhyw un o’r llwybrau canlynol: cwblhad diploma lefel tri mewn cyfrifyddu neu lefel tri mewn cyfrifyddu; gradd gyfrifyddu berthnasol wedi’i chymeradwyo gan AAT cyn cychwyn.  Mae mynediad i’r brentisiaeth hefyd yn dibynnu ar gyflogaeth addas.

Yn ogystal argymhellir safon dda mewn mathemateg a Saesneg.  Bydd unrhyw brofiad galwedigaethol mewn cyfrifyddu o fudd enfawr.  

Costau Ychwanegol


Bydd yn ofynnol i ddysgwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.