Skip to main content

Tystysgrif Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol A Sgiliau Cyfathrebu

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 17 Wythnos

  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen mewn amgylchedd gweinyddiaeth feddygol.

Gall y dysgwr ddechrau neu symud ymlaen yn broffesiynol o fewn gyrfa fel gweinyddwr neu ysgrifennydd meddygol, gan helpu cleifion a darparu cefnogaeth hanfodol i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Bydd y cymhwyster lefel dau yn cwmpasu meysydd sy'n ymwneud â sgiliau gweinyddu mewn amgylchedd meddygol a sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd meddygol

Nodweddion y Rhaglen
  • Darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o weinyddiaeth a sgiliau cyfathrebu
  • Cyfuniad o gyflwyniad ar y safle ac ar-lein
  • Cyflwynir gan ddarlithwyr cymwysedig
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu llwybr dilyniant i gyflogaeth neu gymhwyster lefel uwch.
  • Datblygiad proffesiynol parhaus
Cynnwys y Rhaglen

Bydd Sgiliau Gweinyddu yn cynnwys:

  • Gweithdrefnau sy’n ymwneud â chofrestru cleifion
  • Apwyntiadau a systemau apwyntiadau
  • Defnydd o gyfarpar swyddfa
  • Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol swyddfa
  • Pwysigrwydd rheoli amser a chywirdeb

Bydd Sgiliau Cyfathrebu yn cynnwys:

  • Datblygu sgiliau i gyfathrebu gydag ystod o bobl
  • Datblygu sgiliau mewn cyfathrebu wyneb yn wyneb, ysgrifenedig a di-eiriau
  • Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu a ffactorau sy’n gwneud cyfathrebu’n anodd
  • Datblygu sgiliau ar gyfer cyfansoddi dogfennau ysgrifenedig priodol
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen:

  • I mewn i gyflogaeth
  • Tystysgrif Lefel 2 Terminoleg Feddygol a Chlywdeipio ym Maes Meddygaeth
Dull asesu

Bydd asesu ar ffurf dwy dasg o dan gyfyngiadau amser - un mewn Gweinyddiaeth Feddygol ac un mewn Sgiliau Cyfathrebu - a fydd yn cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad ar gyfer yr holl feini prawf asesu a'r deilliannau dysgu gofynnol.

Tystysgrifau Agored Cymru mewn:

  • Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol
  • Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol
Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, er yr ystyrir bod dealltwriaeth dda o'r Saesneg yn fuddiol gyda ffocws arbennig ar gywirdeb sillafu, ynghyd â naill ai profiad mewn amgylchedd meddygol neu awydd i symud i'r maes hwn.

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd rhan-amser ym Mand Ffioedd H ynghlwm wrth y cwrs.  Does dim costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.