Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy'n ceisio llwybr i ofal plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy'n seiliedig yn bennaf ar weithdai, gydag elfennau o brofiad lleoliad gwaith gofal plant a/neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o unedau seiliedig ar ofal plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys:
Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc drwy Chwarae
Cyflwyniad i Ffordd Iach o Fyw
Cyflwyniad i Weithio mewn Partneriaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
Rhaglen Diwtorial
Adolygiadau Cynnydd
Datblygiad Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
Byddwch Actif
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i gwrs lefel 2.
Asesu'r Rhaglen
Arsylwadau ar Leoliad
Asesiadau ysgrifenedig
Bydd enghreifftiau’n cynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau PowerPoint a ffurfiau amrywiol eraill
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Lefel 1 feddu ar:
O leiaf 4 TGAU ar radd D i G a DBS manwl clir.
Costau Ychwanegol
Ffi Cofrestru - £45 y flwyddyn
DBS Manwl - £44
Iwnifform - y gost yn fras am Hwdi £20, Crys Polo £12
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.