Mae'r Radd Sylfaen mewn Gofal a Chymorth wedi'i chynllunio ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn sefydliadau sy'n darparu gofal a chymorth i gleientiaid mewn lleoliadau tai cymdeithasol, preswyl a chymunedol, neu sy'n gwirfoddoli oriau sylweddol mewn lleoliadau tebyg. Mae cwblhau'r Radd Sylfaen yn llwyddiannus hefyd yn darparu cyfle i symud ymlaen i astudio gradd lawn mewn maes pwnc cysylltiedig.
Mae'r cwrs yn archwilio ystod o faterion sy'n ganolog i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Mae'r rhain yn cynnwys: sgiliau astudio academaidd; materion cyfoes ym maes tai; materion cydraddoldeb mewn gofal cymdeithasol; eiriolaeth; cynllunio ar gyfer gofal canolradd; ymchwil; pobl ifanc ac oedolion; diogelu; rheoli newid a phynciau perthnasol eraill.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno'n rhan-amser dros 3 blynedd - un prynhawn ac un noson yr wythnos. Bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu gweithdai ar adegau eraill i gwblhau eu diploma. Rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd dysgu yn y gweithle er mwyn datblygu'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal ac ymestyn cynnwys academaidd y cwrs.
Cipolwg
Rhan Amser
3 blynedd o astudio rhan-amser
Campws RHydaman
Nodweddion y Rhaglen
Cyflwynir y cwrs yn rhan-amser mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol
Lluniwyd y cynnwys gyda chymorth cyflogwyr a budd-ddeiliaid allweddol
Rhoddir pwyslais ar ddysgu yn y gweithle sy'n bodloni'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
Cyfle i symud ymlaen i astudio gradd lawn gan gynnwys BA (Anrh) Astudiaethau Gofal Cymdeithasol neu BA (Anrh) Cynhwysiant Cymdeithasol
Cynnwys y Rhaglen
Blwyddyn 1
Profiad Cyflogaeth 1; Sgiliau Astudio Academaidd ar gyfer Myfyrwyr; Materion Cyfoes mewn Tai Cymdeithasol; Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau
Blwyddyn 2
Profiad Cyflogaeth 2; Eiriolaeth a Grymuso; Cynllunio ar gyfer Gofal Canolradd; Integreiddio Ymchwil ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Blwyddyn 3
Profiad Cyflogaeth 3; Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion; Ymwneud â Gwasanaethau Gofal a Chymorth; Rheoli Newid yn y Gwasanaethau Gofal a Chymorth
Dilyniant a Chyflogaeth
Byddai gan raddedigion llwyddiannus hefyd gyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn rhaglen BA (Anrh) gan gynnwys y BA (Anrh) mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr. Mae cyflawni Gradd Sylfaen yn dynodi sgiliau lefel uwch, sydd yn apelio at ddarpar gyflogwyr.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yn barhaus a thrwy aseiniadau. Nid oes arholiadau.
Gofynion y Rhaglen
Byddai angen i ddarpar fyfyrwyr fod yn gweithio, neu'n gwirfoddoli oriau sylweddol, mewn sefydliad sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth.
Byddai rhaid i'r holl fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o wiriad clir, cyfredol, manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.