Skip to main content

Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) Bl1

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (QCF) wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal.

Bydd hyn yn darparu tystiolaeth o gymhwysedd y dysgwr mewn rolau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc.

Os ydych yn bwriadu gweithio yn Lloegr cysylltwch â Skills for Care (SfC) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymwysterau gofynnol.

Cipolwg

  Rhan Amser

  16 gweithdy undydd

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen


  • Gweithdai cefnogol rheolaidd yn y coleg
  • Asesir gan aseswyr cymwys a phrofiadol
  • Cymhwyster statudol a gydnabyddir trwy Gymru a Gogledd Iwerddon

Cynnwys y Rhaglen


Yr Unedau Gorfodol yw:

Cyfathrebu; Datblygiad Personol, Cydraddoldeb a Chynhwysiant; Dyletswydd Gofal; Datblygiad Plant a Phobl Ifanc, Diogelu Lles Plant a Phobl Ifanc; Iechyd a Diogelwch; Perthynas Bositif a Chanlyniadau Positif, Gweithio Gyda'n Gilydd er Lles Plant a Phobl Ifanc, Asesu a Chynllunio, Lles a Gwytnwch, Colled Synhwyraidd; Ymarfer Proffesiynol.

Caiff Unedau Dewisol ei dewis yn ôl yr hyn sy'n berthnasol i leoliad gwaith y dysgwr.

 

Dilyniant a Chyflogaeth


Darperir y cwrs hwn fel gofyniad statudol i'r holl staff ar gyfer symud ymlaen o fewn y sector gofal.

Asesu'r Rhaglen


Y radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster yw pas. Er mwyn pasio unrhyw uned rhaid i'r dysgwr gyflawni'r holl ddeilliannau dysgu a nodwyd a bodloni'r holl feini prawf asesu trwy ddarparu tystiolaeth ddigonol a dilys ar gyfer pob maen prawf mewn portffolio.

Caiff y dyfarniad ei asesu gan aseswr yn y coleg gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau gan gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, adroddiadau adfyfyriol ysgrifenedig, trafodaeth broffesiynol, cwestiynau ac atebion, tystiolaeth tyst arbenigol a thystiolaeth o gydnabod dysgu blaenorol.

Gofynion y Rhaglen


Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond bydd angen i ymgeiswyr fod yn gweithio ar lefel 3 mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol a chael cefnogaeth eu cyflogwr i gwblhau'r dyfarniad.

Gall rolau gwaith gynnwys Uwch Gynorthwy-ydd Gofal / Uwch Weithwyr Gofal mewn lleoliadau Gofal Preswyl / Gofal Dydd / Gofal Seibiant / Gofal Maeth.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.