Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am rôl y gweithiwr chwarae Lefel 3 wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 4 ac 16 oed. Mae’r Diploma yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio heb oruchwyliaeth.
Cipolwg
Rhan Amser
18 mis
Rhydaman Graig
Nodweddion y Rhaglen
chwarae profiadol sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth eang o blant a phobl ifanc a gwerthfawrogiad dwfn o egwyddorion ac ymarfer gwaith chwarae.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.
Cynnwys y Rhaglen
Cyflwynir gwybodaeth trwy weithdai a addysgir a bydd yn cynnwys:
Theorïau chwarae, mathau ac amgylcheddau chwarae,
Egwyddorion ymarfer,
Cyfle Cyfartal,
Diogelu,
Iechyd a Diogelwch
Perthnasoedd o fewn yr amgylchedd chwarae.
Fframwaith:
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2
(Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn y gorffennol)
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Gallai swyddi posibl gynnwys:
Swyddog Datblygu Gwaith Chwarae,
Goruchwyliwr Canolfan Antur;
Gweithiwr Chwarae mewn Ysbyty,
a Rheolwr unrhyw Ddarpariaethau Gwaith Chwarae.
Asesu'r Rhaglen
Caiff y cymhwyster ei asesu gan eich tiwtor a’ch aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Bydd hyn yn cynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth ac aseiniadau ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Ar gyfer y Diploma, bydd angen i chi fod mewn gwaith â thâl yn y sector gofal plant.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN