Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Oedolion

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 15 Mis

  • Campws Rhydaman

Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr sydd dros 18 oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau megis gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd neu gynorthwyydd gofal iechyd.

Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Bydd y prentis yn mynychu’r coleg yn rheolaidd a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen

Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.

Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.

Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen.  

Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd 
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer - gydag Oedolion
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1

Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.

Dull asesu

Bydd prentisiaid yn mynychu sesiynau a addysgir naill ai ar-lein neu yn yr ystafell ddosbarth, i gwmpasu cynnwys craidd y lefel dau.

Caiff y craidd ei asesu drwy astudiaethau achos ac arholiad ar-lein.

Caiff yr ymarfer ei asesu drwy waith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol.  Fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod mewn gwaith â thâl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda chontract o 16 awr yr wythnos o leiaf.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.