Skip to main content

Prentisiaeth - Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 3)

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 18 Mis

  • Campws Rhydaman

Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.

Yn draddodiadol, mae'r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’n rhaid eich bod yn gyflogedig i gymryd rhan yn y rhaglen hon.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer gweithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn:

  • Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
  • Deall sut mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, arweiniad a fframweithiau’n cefnogi gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
  • Gwerthfawrogi ffactorau sy’n effeithio ar iechyd, lles, dysgu a datblygiad plant.
  • Ystyried rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant a deall pwrpas deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, gweithdrefnau a chodau ymddygiad ac ymarfer mewn perthynas â diogelu plant.
  • Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
  • Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
  • Bydd yr aseswr yn asesu’r dysgwr yn y gweithle yn ôl yr angen
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r rhaglen brentisiaeth hon yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant lefel 3 cymwysedig mewn rôl heb oruchwyliaeth ac, yn y lleoliad gwaith iawn, mewn rôl arwain.

Gellir symud ymlaen i raglen lefel 4.

Dull asesu

Caiff yr elfen graidd ei hasesu drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol y gellir eu sefyll trwy gydol y cymhwyster neu ar ei ddiwedd. Yn ogystal, bydd un papur cwestiynau amlddewis wedi’i farcio’n allanol.

Bydd yr elfen ymarfer yn cael ei hasesu gan ddefnyddio portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer.

Gofynion Mynediad

Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.    

Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig yn y sector gofal plant a bod ganddynt gontract parhaol am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.