Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
Cipolwg
-
Rhan Amser
-
16 mis
-
Campws Rhydaman
Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am rôl gweithiwr chwarae lefel tri wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng pedair ac 16 oed. Mae’r diploma yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio heb oruchwyliaeth.
Cwrs rhan-amser yw hwn sy’n seiliedig ar weithdai ac ymarfer ac mae wedi'i anelu at weithwyr chwarae profiadol sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth eang o blant a phobl ifanc a gwerthfawrogiad dwfn o egwyddorion ac ymarfer gwaith chwarae.
Caiff yr holl ddysgwyr eu cefnogi gan aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd.
Bydd yr aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser a bydd yn asesu’r dysgwr yn y gweithle.
Cyflwynir gwybodaeth trwy weithdai a addysgir a bydd yn cynnwys:
- Theorïau chwarae, mathau ac amgylcheddau chwarae,
- Egwyddorion ymarfer
- Cyfle Cyfartal
- Diogelu
- Iechyd a Diogelwch
- Perthnasoedd o fewn yr amgylchedd chwarae.
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Gallai dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Gallai swyddi posibl gynnwys:
- Swyddog Datblygu Gwaith Chwarae
- Goruchwyliwr Canolfan Antur
- Gweithiwr Chwarae mewn Ysbyty
- Rheolwr unrhyw Ddarpariaethau Gwaith Chwarae.
Caiff y cymhwyster ei asesu gan eich tiwtor a’ch aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Bydd hyn yn cynnwys arsylwadau uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth ac aseiniadau ysgrifenedig.
Bydd angen i chi fod mewn gwaith â thâl neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal plant.
Costau’r cwrs £158.