Cymerwch eich camau cyntaf ar lwybr a fydd yn rhoi cipolwg i chi i’r diwydiant busnes a'r diwydiant twristiaeth hefyd. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder ac ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’n anelu at feithrin a chefnogi datblygiad sgiliau yn barod ar gyfer astudiaeth bellach. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i raglen Lefel 2 mewn Busnes, Teithio a Thwristiaeth neu Letygarwch. Gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach gwahanol neu gyflogaeth.
Byddwch yn ymgymryd â thasgau damcaniaethol ac ymarferol a fydd yn arwain at gyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ffurfio cysylltiadau agos â busnesau lleol a'r diwydiant twristiaeth. Byddwch yn cael golwg realistig ar y gofynion o weithio yn y sector busnes a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous.
Cewch y cyfle i archwilio diwydiannau trwy ymweliadau â busnesau ac atyniadau ymwelwyr. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â busnesau lleol a’r diwydiant twristiaeth.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol ac yn cynnwys: bod yn drefnus, gweithio gydag eraill, datblygu cynllun dilyniant personol ac ymchwilio i bwnc.
Mae unedau eraill yn cwmpasu pynciau megis gwasanaeth cwsmer, archwilio busnesau ac atyniadau ymwelwyr lleol, brandio a hyrwyddo a chynnal digwyddiad.
Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr, felly mae'r cwrs hefyd yn ymgorffori astudiaeth orfodol naill ai o Gymwysterau TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU.
Ar ôl cwblhau eu hastudiaeth bydd myfyrwyr yn cael Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 BTEC mewn Busnes
Dilyniant a Chyflogaeth
Diben y cwrs hwn yw datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy, y priodoleddau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i symud ymlaen i astudiaeth bellach. Gall y dilyniant hwn gymryd llawer o lwybrau megis i raglen lefel 2, llwybrau astudio eraill neu brentisiaeth, gan arwain yn y pen draw at gyflogaeth.
Mae cyfleoedd dilyniant yn destun cyfweliad ac yn dibynnu ar gyflawniadau'r myfyrwyr ar Lefel 1. Er mwyn symud ymlaen, mae disgwyl i ddysgwyr gwblhau’r cwrs gyda phroffil pas llawn a dangos cynnydd mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau yn fewnol gan ddefnyddio aseiniadau a ddyfeisiwyd gan y ganolfan.
Gall y dulliau asesu hyn gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, chwarae rôl, cyfweliadau neu ysgrifennu estynedig.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen o leiaf dau bwnc TGAU graddau D-G arnoch i astudio’r cwrs hwn. Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad a phrawf mynediad.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.