Mae'r pwyslais trwy gydol y cwrs ar ddysgu sy'n fyfyriwr ganolog, tasg gyfeiriedig, gyda digon o gyfle ar gyfer gwaith aseiniad ymarferol. Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, bydd prosiectau a wneir yn yr ail flwyddyn, yn cael eu seilio ar ddiwydiant gyda goruchwylwyr diwydiannol yn cymryd rhan lawn ynddynt. Mae hwn yn gwrs rhan-amser tair blynedd, sefydledig, sy'n darparu sylfaen gadarn ym mhob agwedd ar beirianneg drydanol ac electronig ac mae'n cyfuno'r meysydd pwnc caledwedd a meddalwedd y mae'r diwydiant yn galw amdanynt.
Mae yna un dyfarniad canolradd, sy’n HNC. Gellir cyflawni'r dyfarniad hwn ar ôl dwy flynedd o astudiaeth ran-amser a gellir ei uwchraddio i HND ar ôl blwyddyn arall o astudiaeth ran-amser. Fel rheol caiff myfyrwyr eu cofrestru ar yr HNC yn gyntaf ac yna cânt gyfle i ddychwelyd i uwchraddio i'r HND. Hefyd gellir cyflawni'r HND mewn dwy flynedd wrth astudio'n llawn amser. Ar ôl ennill yr HND, caiff myfyrwyr wedyn y cyfle i uwchraddio i radd anrhydedd lawn gyda dwy flynedd bellach o astudiaeth ran-amser
Cipolwg
Llawn neu Rhan Amser
2 Flynedd Llawn Amser neu 3 Blynedd Rhan Amser
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae gan y dyfarniad hwn y nodau addysgol cyffredinol canlynol:
a) Datblygu lefel eang o ddealltwriaeth o egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig, mathemateg a rhaglennu.
b) Datblygu'r gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau a enillwyd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianyddol.
c) Datblygu'r gallu i gymathu a chyfathrebu gwybodaeth mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys TGCh.
d) Paratoi myfyriwr ar gyfer byd gwaith neu i wella eu rhagolygon gyrfaol o fewn gwaith presennol trwy ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol, personol a throsglwyddadwy.
e) Gwneud y myfyriwr yn ymwybodol o gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch, busnes, rheolaeth, amgylcheddol a chynaladwyedd ar lefel eang.
Cynnwys y Rhaglen
Lefel 4:Egwyddorion Trydanol ac Electronig, Mathemateg Peirianneg, Electroneg I, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy, Cyflwyniad i Raglennu C a Systemau wedi'u Mewnblannu, Offeryniaeth a Systemau Awtomatiaeth Integredig, Prosiect Peirianneg Drydanol ac Electronig HNC.
Lefel 5:Electroneg II, Mathemateg Peirianneg Bellach, Egwyddorion Trydanol, Dulliau ac Efelychu, Rheoli ac Offeryniaeth, Ffurfweddiad a Rhaglennu Systemau wedi'u Mewnblannu, Signalau a Chyfathrebu Digidol, Pwer a Pheiriannau, Systemau Offeryniaeth Rhithwir a Systemau Rheoli, Systemau Rhwydweithio ar gyfer Peirianwyr, Peirianneg Rheoli.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cyflawni dyletswyddau technegol mewn swyddi sy'n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o beirianneg drydanol ac electronig. Dylent fod yn gallu dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, cynnal a rheoli cymwysiadau o dechnoleg gyfredol a datblygol ar lefel uchel. Byddant yn barod i ymarfer fel peirianwyr corfforedig a hefyd bydd ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer parhau mewn addysg.
Asesu'r Rhaglen
Arholiad a hyd at ddau ddarn o waith cwrs ar gyfer modiwlau nad ydynt yn brosiectau. Cyflwyniad llafar ac adroddiadau prosiect ar gyfer y modiwl prosiect.
Gofynion y Rhaglen
Mynediad i flwyddyn 1: Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu debyg neu Safon Uwch mewn 2 bwnc addas (e.e. mathemateg, gwyddoniaeth, cyfrifiadura) gradd C neu uwch. TGAU mathemateg, Saesneg ac un pwnc gwyddoniaeth gradd C neu uwch.
Mynediad uniongyrchol i flwyddyn 3 rhan-amser neu flwyddyn 2 llawn amser - HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig.
Costau Ychwanegol
Mae ffioedd Addysg Uwch yn gymwys a chaiff unrhyw gostau ychwanegol eu pennu’n flynyddol gan y coleg.
Yn ogystal bydd gofyn i’r dysgwr ddarparu ei ddeunydd ysgrifennu ei hun a chyfarpar dosbarth sylfaenol sy’n briodol i’w gwrs (e.e. pennau a chyfrifiannell).
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.