Mae'r diploma lefel pedwar rhan-amser hwn yn rhoi llwybr dilyniant ar gyfer gweithwyr proffesiynol trin gwallt a harddwch profiadol a chymwys sy'n gweithio heb oruchwyliaeth, o bosibl mewn rôl oruchwylio neu reoli, ac sydd â lefel uchel o wybodaeth a sgiliau perthnasol.
Cipolwg
Rhan-amser
2 flynedd
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r tîm trin gwallt yn ffodus fod ganddynt gysylltiadau cryf gydag arbenigwyr yn y diwydiant yn lleol a chenedlaethol a chewch eich addysgu gan ein staff profiadol yn y diwydiant.
Mae gennym siaradwyr gwadd o’r diwydiant sydd yn rhoi cyfleoedd cyfoethogi i fyfyrwyr drwy seminarau gweithdy.
Byddwch yn astudio unedau gorfodol megis rheoli salon, cysylltiadau cyhoeddus ac arbenigeddau gwallt a chroen y pen.
Cyflwynir y cwrs dros bedair awr yr wythnos dros ddwy flynedd academaidd.
Cynnwys y Rhaglen
Mae cynnwys y cymhwyster yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
Rheolaeth o ansawdd ar gyfer gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch
Rheoli'r gwaith o greu casgliad o steiliau gwallt
Rheoli salon
Gwasanaethau arbenigol i wallt a chroen y pen
Dilyniant a Chyflogaeth
Yn dibynnu ar y llwybr dilyniant rydych chi wedi penderfynu ei ddilyn, mae yna unedau amrywiol ar gyfer pob llwybr a fydd yn eich cefnogi yn eich rôl oruchwylio neu reoli.
Gall y cwrs hefyd eich arwain at:
Sefydlu busnes cymwys
Statws gradd cymwys gyda mwy o astudio
Ymarferydd uwch
Dyfarniad aseswr lefel tri
Tystysgrif lefel pump mewn rheoli salon.
Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau a chewch gipolwg ar ragolygon gyrfa yn y diwydiant, a gaiff ei ennill trwy deithiau a digwyddiadau.
Asesu'r Rhaglen
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Arholiad ymarferol
Asesiadau parhaus
Portffolio o dystiolaeth
Asesiadau ysgrifenedig
Gofynion y Rhaglen
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad, fodd bynnag rydym angen:
Lefel tri NVQ/VRQ mewn trin gwallt / therapi harddwch wedi’i gwblhau’n llwyddiannus
Pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg a mathemateg.
Mae angen i ymgeiswyr posibl fod yn ymwybodol bod presenoldeb a phrydlondeb rhagorol yn hanfodol.
Costau Ychwanegol
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £380.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, efallai bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.