Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws y Graig 

Mae therapi harddwch yn ddiwydiant ehangol a phroffesiynol sy’n cwmpasu amrywiol ddiwydiannau fel salonau harddwch, gwestai, sbâu a llongau gwyliau.

Mae'r cymhwyster lefel dau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am gael gyrfa yn y diwydiant therapi harddwch. 

Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau therapi harddwch sylfaenol a bydd yn rhoi   sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau pellach.  

Wrth ddysgu yn salon hyfforddi’r coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel harddwr/harddwraig. 

Yn ystod y cwrs cewch eich cefnogi i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon harddwch go iawn.

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.

Mae'r cwrs lefel dau hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy’n ofynnol i weithio'n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys gofal croen yr wyneb, gwella golwg aeliau a blew amrant, gwasanaethau cwyro, triniaeth dwylo, triniaeth traed, effeithiolrwydd yn y gwaith, iechyd a diogelwch a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu dysgu yn y coleg.

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y coleg salon gweithredol sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae hwn yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Mae gan fyfyrwyr raglen ffyniannus o weithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda dilyniant i gystadlaethau rhyngwladol.             

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol therapi harddwch ac fe'i cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU fel un sy'n addas at y pwrpas o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch iau.

Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn:

  • Darparu triniaethau gofal croen yr wyneb
  • Cyflawni gwasanaethau cwyro
  • Gwella golwg aeliau a blew amrant
  • Gwasanaethau triniaeth dwylo
  • Gwasanaethau triniaeth traed
  • Gwasanaethau colur
  • Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch
  • Hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau ychwanegol i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster harddwch, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach a datblygu eich hyder ac opsiynau gyrfaol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i lefel uwch, prentisiaethau ac yn y pen draw i waith fel therapydd iau.

Gall ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa fod yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Bydd cyfleoedd gyrfaol yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai i gwrs lefel tri neu i salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, a hunangyflogaeth fel gwaith symudol neu leoliadau yn y cartref.

Dull asesu

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig 

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol. 

O leiaf pedwar TGAU graddau A* i D gyda dwy radd C, un naill ai mewn Cymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg.  

Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. 

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs a bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol, gan ddibynnu ar eich graddau TGAU blaenorol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.