Skip to main content

Tystysgrif Ran-amser mewn Trin Gwallt

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws y Graig 

Mae trin gwallt yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd trwy amrywiol dechnegau steilio gwallt, cyfuniadau lliw, a thriniaethau gwallt, ac mae’r cwrs rhagflas cyffrous, lefel dau rhan-amser hwn, wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i weithio yn y diwydiant trin gwallt.

Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau trin gwallt sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.

Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.  Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Mae'r dystysgrif lefel dau hon yn cynnwys yr elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel trinydd gwallt gan gynnwys lliwio a goleuo gwallt, steilio a gwisgo gwallt a gweithio yn y diwydiant gwallt.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, gan ganiatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.

Mae hwn yn gwrs rhan-amser a gynhelir dros un noson yr wythnos.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs trin gwallt lefel dau yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:

  • Y grefft o drin gwallt
  • Ymgynghoriad cleient ar gyfer gwasanaethau gwallt
  • Dilyn ymarfer iechyd a diogelwch yn y salon
  • Gweithio yn y diwydiant gwallt
  • Siampŵo a chyflyru’r gwallt a chroen y pen
  • Lliwio a goleuo gwallt
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ac yn y pen draw i waith fel trinydd gwallt iau. 

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Byddai dilyniant i gwrs diploma lefel dau neu mewn salonau masnachol neu'n gweithio mewn diwydiannau fel teledu, ffilm, theatr a'r cyfryngau, llongau gwyliau, cwmnïau gwneud wigiau, siopau barbro a hunangyflogaeth.

Dull asesu

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol. 

Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf)/ Saesneg neu fathemateg.  Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.

Costau Ychwanegol

Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £305.

Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform.  Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.

Trefnir amrywiol deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.