Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant llawn amser, fel rheol tri diwrnod yr wythnos, i fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol sydd naill ai'n bwriadu ymuno â'r grefft neu'n dymuno symud ymlaen i hyfforddiant lefel tri sy’n cynnwys atgyweirio, gwasanaethu a chynnal a chadw ystod eang o beiriannau amaethyddol ac ar dir.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau sgiliau hanfodol. Bydd cyfleoedd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer TGAU mewn Saesneg a mathemateg, a fydd yn hanfodol er mwyn parhau i lefel tri.
Yn dilyn cyfweliad gellir cynnig rhaglen brentisiaeth i ymgeiswyr, yn amodol ar eu gallu ymarferol a'u cymwysterau presennol ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf. Byddai hyn ar sail ran-amser.
Cipolwg
Llawn Amser
1 flwyddyn
Campws Galli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector galwedigaethol priodol.
Hyfforddiant ymarferol a theori mewn peiriannau a chyfarpar amaethyddol ac ar dir.
Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Cynnwys y Rhaglen
Gwasanaethu Peiriannau Amaethyddol, Arferion Gweithdy, Technoleg Injan, Systemau Trydanol, Iechyd a Diogelwch, Egwyddorion Mecanyddol, Peiriannau Cynaeafu, Offer a Chyfarpar, Weldio a Ffabrigo (gall hyn newid).
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gall myfyrwyr symud ymlaen i'r cymhwyster technegwyr amaethyddol lefel dau yn y ganolfan, neu hyfforddiant prentisiaeth llawn. Fel arall, gall hyfforddiant addysg bellach ar lefel uwch fod yn briodol er enghraifft, diploma 90 credyd lefel tri mewn peirianneg amaethyddol.
Asesu'r Rhaglen
Gwaith cwrs, arholiadau, cardiau jobsys ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Cymhwyster diploma lefel un neu 3 TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU graddau A* - D) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg a chyfweliad llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr brynu bŵts diogelwch, oferôls a sbectol diogelwch cyn dechrau'r cwrs.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.