Mae'r cwrs yn darparu rhaglen astudio y gellir ei chyflawni mewn blwyddyn, felly gall dysgwyr fancio eu cyflawniad ac wedyn adeiladu arno.
Mae'n annog dilyniant ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n dymuno ymgymryd â chwrs astudio blwyddyn o hyd oherwydd amgylchiadau unigol.
Fodd bynnag, mae'r 90 credyd a gyflawnwyd yn cyfrif tuag at y 180 credyd sy’n ofynnol i gwblhau'r diploma estynedig mewn technoleg ar dir ar lefel tri os yw'r myfyriwr yn dymuno symud ymlaen.
Mae'r cwrs yn darparu'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg amaethyddol ac sy'n dymuno symud ymlaen i leoliad gwaith cysylltiedig â diwydiant, addysg uwch. Mae'n cwmpasu sylfaen eang o beirianneg amaethyddol ac er ei fod yn gwrs ymarferol, mae'n canolbwyntio ar y theori y tu ôl i'r technolegau peirianneg sy'n gysylltiedig â'r diwydiant amaethyddol yn enwedig o ran gofynion dylunio, gweithgynhyrchu a gwasanaethu tractorau amaethyddol a pheiriannau tir.
Blwyddyn 1 - 90 credyd
Blwyddyn 2 - 120 neu 180 credyd
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn neu 2 Flynedd
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Mae dilyniant o fewn addysg yn cynnwys y Diploma Estynedig mewn Technoleg ar Dir lefel 3.
Paratoad ar gyfer gwaith yn y sector galwedigaethol priodol.
Hyfforddiant ymarferol a theori mewn peiriannau a chyfarpar Amaethyddol a Thir.
Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Cynnwys y Rhaglen
Technoleg Injan, Technoleg Disel, Dylunio Peirianegol, Mathemateg Beirianegol, Iechyd a Diogelwch, Profiad yn gysylltiedig â gwaith, Systemau Hydrolig, Diagnosteg, Systemau Siasi, Trawsyriannau, Prosiect Peirianneg, Trydan a systemau rheoli electronig, Gwasanaethu peiriannau a chyfarpar, Rhoi, amaethu a chynaeafu, Uniadu thermol
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau'r diploma estynedig yn llwyddiannus yn cymhwyso dysgwyr i gael mynediad i leoliadau gwaith cysylltiedig â’r diwydiant a chyrsiau lefel prifysgol mewn pynciau cysylltiedig.
Asesu'r Rhaglen
Asesir ar sail aseiniadau gwaith cwrs a phrofion diwedd modiwl, cwestiynu llafar, ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol yn y gweithdy.
Gofynion y Rhaglen
Pump TGAU graddau A* - C (yn cynnwys mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, neu Gymraeg) neu gymhwyster diploma lefel dau mewn pwnc perthnasol ynghyd ag un TGAU A* - C naill ai mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg.
Gofynion Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Bŵts blaenau dur, oferôls a sbectol diogelwch
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.