Mae hwn yn gwrs delfrydol ar gyfer y rheiny sy'n dymuno camu i'r diwydiant amaethyddol ond sydd efallai heb unrhyw brofiad neu gymwysterau ffurfiol.
Cwrs llawn amser yw hwn a gyflwynir fel rheol dros dri diwrnod yr wythnos.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu eich theori a sgiliau ymarferol mewn amaethyddiaeth.
Fel rhan o'r rhaglen byddwch yn cael cynnig cymorth gyda sgiliau rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a sgiliau digidol. Gallai hyn arwain at gymhwyster mewn Sgiliau Sylfaenol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Cwrs ymarferol.
Staff caredig, gofalgar a gwybodus.
Fferm goleg ardderchog gydag ystod dda o anifeiliaid a pheiriannau ynghyd ag ymweliadau rheolaidd â ffermydd, marchnadoedd a sioeau.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd gan y cwrs hwn nifer o unedau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Bydd y rhain yn cynnwys edrych ar ôl anifeiliaid, er enghraifft, gwartheg llaeth a bîff a defaid. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys unedau sy’n gysylltiedig â pheiriannau fferm gan gynnwys tractorau ac offer. Bydd hefyd yn edrych ar gnydau sy’n cael eu defnyddio wrth ffermio anifeiliaid.
Bydd y tasgau ymarferol yn cael eu cyflawni ar fferm y coleg yn ystod sesiynau fferm ymarferol, lle byddwch yn cael eich dysgu i wneud amrywiaeth o dasgau bob dydd fel bwydo, gosod gwelyau gwellt, glanhau llociau, wyna, lloia a phob gofal iechyd arferol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Yn dilyn llwyddiant ar lefel teilyngdod neu ragoriaeth fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel dau llawn amser. Os byddai'n well gennych gamu i fyd gweithio ar fferm yna gallai prentisiaeth fod yn addas i chi. Mae’r staff yn hapus i’ch cefnogi a’ch tywys o ran eich dyheadau.
Asesu'r Rhaglen
Bydd hyn yn seiliedig ar asesiadau ymarferol, llafar ac ysgrifenedig sy'n barhaus trwy gydol y cwrs.
Gall rhai fod yn seiliedig ar berfformiad a bydd eraill yn canolbwyntio ar wybodaeth greiddiol yr uned.
Hefyd bydd dau arholiad ar-lein.
Gofynion y Rhaglen
Tri TGAU graddau A* i G neu gyfwerth a chyfweliad llwyddiannus. Mae'n hanfodol bod gennych ddiddordeb mewn ffermio, anifeiliaid a chnydau.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.