Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o ffermio ymarferol.
Mae ganddo elfennau o wyddoniaeth, planhigion ac anifeiliaid ill dau, hwsmonaeth anifeiliaid, peiriannau ac agweddau amgylcheddol drwy sgiliau ystad, sy’n dangos yr ystod eang o wybodaeth sydd ei hangen i weithio o fewn busnes ffermio.
Byddwch yn cymryd rhan mewn cymysgedd o addysgu ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth.
Fel rhan o’r cwrs, yn y gwanwyn byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn bloc o brofiad gwaith sy’n orfodol er mwyn eich helpu i ehangu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol.
Yn ogystal, bydd yn rhaid i chi weithio tuag at naill ai gradd C mewn mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu ddilyn Sgiliau Hanfodol mewn rhifedd a chyfathrebu. Cyflawnir hyn mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Dull astudio llawn amser
Adnoddau a chyfleusterau ardderchog
Cymysgedd ardderchog o wersi ymarferol a theori
Cyfwerth â phedwar TGAU
Mae’r cwrs yn cynnwys profiad gwaith
Amrywiaeth ragorol o ymweliadau a siaradwyr gwadd
Arbenigedd a chefnogaeth staff
Cynnwys y Rhaglen
Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
Peiriannau Amaethyddol
Hwsmonaeth Cnydau
Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Cynnal a chadw ystâd
Gwyddor Planhigion ac Anifeiliaid
Gweithio yn y Diwydiant Amaeth
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ar lefel teilyngdod neu’n uwch yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen i gyrsiau eraill ar lefel tri. Mae’r cwrs yn rhoi hyfforddiant ymarferol cynhwysfawr i’r rheiny sydd am fynd ati i ffermio’n ymarferol ac mae’n darparu gwybodaeth sylfaenol ragorol ar gyfer prentisiaethau.
Asesu'r Rhaglen
Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig (synoptig) ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Bydd hi’n ofynnol i chi gael:
Cymhwyster lefel un ar lefel teilyngdod neu uwch neu bedwar TGAU graddau A* i E gydag o leiaf un TGAU gradd A* i C mewn Cymraeg, Saesneg neu fathemateg. Yn ogystal, rhaid i chi gael cyfweliad llwyddiannus a dangos brwdfrydedd tuag at amaethyddiaeth a meddu ar y profiad amaethyddol priodol.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.