Prentisiaeth Sylfaen - Amaethyddiaeth

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • Bydd cwblhau prentisiaeth sylfaen yn cymryd 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.

  • Campws y Gelli Aur

Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.

Nodweddion y Rhaglen
  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
  • Bydd yr ymgynghorydd hyfforddi/aseswr yn asesu’r prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod).
Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr gyflawni fframwaith o gymwysterau, a fydd yn cynnwys unedau craidd ac ychwanegol, bydd y dysgwr, y cyflogwr a’r ymgynghorydd hyfforddi yn dewis yr unedau ychwanegol gyda’i gilydd.  Bydd y dewis o unedau ychwanegol yn unigol i bob dysgwr yn seiliedig ar yr hyn mae’n ei wneud yn y gweithle. 

Hefyd bydd angen i’r dysgwr gyflawni:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 1)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 1)
  • Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.

Dull asesu

Portffolio gwaith cwrs, cwestiynu ysgrifenedig a llafar, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y brentisiaeth sylfaen lefel dau mewn amaethyddiaeth, fodd bynnag, mae yna gymwysterau a phrofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn.

  • Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith.
  • Gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.

Bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, sef un, dau, tri neu bedwar. Mae yna ofynion meini prawf cymhwyster y mae rhaid i bob darpar Brentis eu bodloni. Caiff hyn ei asesu yn y cyfweliad. Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.