Prentisiaeth Uwch mewn Amaethyddiaeth

Cipolwg

  • Rhan Amser

  • Rhwng 12 a 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol 

  • Campws Gelli Aur

Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.

Yn draddodiadol, mae'r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.

Nodweddion y Rhaglen
  • Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
  • Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu’r Prentis yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Cynnwys y Rhaglen

Llwybr 1 

Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith Llwybr 1 

Rhaid cyflawni Sgiliau Hanfodol er mwyn cwblhau’n llwyddiannus

Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 2 

Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 2 

Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 2 

Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Uwch hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Uwch eraill.

Dull asesu

Gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith

Gofynion Mynediad

Mae’r Diwydiant Amaethyddiaeth am i’r gofynion mynediad ar gyfer y brentisiaeth uwch fod yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o’r canlynol:  

Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith 

Tystysgrif Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith 

Dyfarniad Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 

Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth  

Diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth  

Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Hwsmonaeth Moch 

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth 

NVQ Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Cnydau/Da Byw 

Ystod dda o brofiad ymarferol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth 

Gwaith gwirfoddol yn y Diwydiant Amaethyddiaeth 

5 TGAU (A*-C) 

2 UG/Safon Uwch 

Bydd ymgynghorwyr hyfforddi yn ymgymryd â chyfweliad cychwynnol a bydd dysgwyr yn cwblhau prawf sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau eu bod yn astudio ar y lefel gywir, sef un, dau, tri neu bedwar. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.