Tystysgrif L2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol

Disgrifiad o'r Rhaglen

Anelir cymwysterau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn bennaf at ymgeiswyr galwedigaethol sy'n bwriadu ennill y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer dilyn gyrfa mewn garddwriaeth. Yn ogystal, mae'r Dystysgrif Lefel 2 RHS hon yn ddelfrydol ar gyfer amaturiaid ymroddedig sy'n dymuno bod eu gwybodaeth a'u sgiliau garddwriaethol yn cael eu hasesu'n ffurfiol. Lleolir y cwrs ar gampws y Gelli Aur a Gerddi Aberglasne.

Mae Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol yn cwmpasu sgiliau crefft hanfodol sy’n cynnwys plannu, tocio, lluosogi a chynnal a chadw planhigion ynghyd â sefydlu a rheoli glaswellt, a chynnal a chadw nodweddion gardd. Bydd dysgwyr hefyd yn gallu adnabod ystod o blanhigion, plâu, clefydau, pathogenau ac anhwylderau.

Cipolwg

  Rhan-amser

  Blwyddyn, bob dydd Mercher

  Gerddi Aberglasney

Nodweddion y Rhaglen

Lleolir y cwrs ar gampws y Gelli Aur a Gerddi Aberglasne, sydd â chyfleusterau ymarferol ardderchog ac sy' Caiff myfyrwyr fynediad i'r llyfrgell ar gampws y Gelli Aur, sydd â stoc fawr o ddeunyddiau dysgu garddwriaethol.

Cynnwys y Rhaglen

Rydyn ni’n cwmpasu 8 testun:

  1. Adnabod Planhigion: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth i alluogi dysgwyr i adnabod ystod eang o blanhigion.
  2. Sefydlu Planhigion: darparu’r sgiliau i ddysgwyr sy’n ymwneud â sefydlu planhigion mewn cynwysyddion ac yn y tir agored.
  3. Lluosogi Planhigion: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth greiddiol i ddysgwyr ar gyfer lluosogi planhigion yn broffesiynol.
  4. Iechyd Planhigion: darparu’r sgiliau i allu adnabod ac atal ystod o fygythiadau i iechyd planhigion.
  5. Gofal Planhigion: rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i allu rhoi cynlluniau cynnal a chadw gerddi ar waith.
  6. Tocio Planhigion: rhoi’r sgiliau garddwriaethol a’r wybodaeth i ddysgwyr i allu tocio amrywiaeth o blanhigion.
  7. Nodweddion Gardd: darparu’r sgiliau a’r wybodaeth greiddiol i ddysgwyr ar gyfer gallu gofalu am amrywiaeth eang o nodweddion gardd a’u cynnal a chadw.
  8. Ardaloedd Glaswelltog: darparu’r sgiliau i ddysgwyr sydd eu hangen i sefydlu a chynnal a chadw ardaloedd glaswelltog mewn lleoliadau gerddi preifat a chyhoeddus.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr symud ymlaen i Dystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion. Mae symud ymlaen i gymwysterau Level 3 RHS hefyd yn opsiwn.

Asesu'r Rhaglen

Asesir drwy ystod o weithgareddau ymarferol a gaiff eu hamserlennu a'u hasesu o fewn y ganolfan gymeradwy.

Bydd asesu ar ffurf 2 asesiad cymhwysedd ymarferol uniongyrchol gan aseswyr RHS ac asesiad ar-lein gydag ystod o atebion byr crynodol.

Bydd angen i ymgeiswyr basio pob un o’r tri asesiad yn llwyddiannus:
Cynhelir yr asesiad cymhwysedd ymarferol cyntaf rhwng Ionawr - Mawrth.

Cynhelir yr ail asesiad cymhwysedd rhwng canol Ebrill tan ganol Gorffennaf Amserlennir yr asesiad cymhwysedd ar-lein ar gyfer diwedd Mehefin

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y dystysgrif lefel dau ymarferol a Thystysgrif lefel 2 sail theori RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygu Planhigion yn derbyn Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.

Gofynion y Rhaglen

Dylai fod gan ymgeiswyr rywfaint o brofiad gwaith yn y diwydiant neu dylent fod yn arddwyr profiadol. Does dim cymwysterau mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu am y cwrs cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, PPE a sisyrnau tocio a gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.