Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygu Planhigion

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae cyrsiau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn uchel eu parch gan y diwydiant ac yn boblogaidd gyda phobl sydd am ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth yn ogystal â garddwyr brwd sydd eisiau dysgu mwy.

Mae'r cwrs yn rhoi sylfaen ddamcaniaethol gadarn i ddysgwyr. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth o wyddoniaeth planhigion, megis sut maent yn gweithredu, maeth, iechyd, addasiadau a gwahanol arddulliau o blannu.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o'r diwydiant garddwriaethol a'r rôl hanfodol y mae planhigion yn ei chwarae wrth wella bioamrywiaeth.

Cipolwg

  Rhan-amser

  Blwyddyn, bob dydd Mawrth

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

Bydd darlithwyr profiadol o gefndiroedd amrywiol yn rhannu eu gwybodaeth a'u sgiliau i'ch helpu i gyrraedd y man lle rydych chi am fod.

Cynhelir y cwrs ar gampws y Coleg yn y Gelli Aur. Caiff myfyrwyr fynediad i'r llyfrgell sydd â stoc fawr o ddeunyddiau dysgu garddwriaethol.

Mae'r cymhwyster yn darparu gwybodaeth am yr egwyddorion gwyddonol sydd yn tanategu arferion garddwriaethol yn ogystal â dealltwriaeth o'r diwydiant garddwriaeth a'i berthnasedd i gymdeithas a
bioamrywiaeth.

Cynnwys y Rhaglen

Ceir 2 uned sy’n cwmpasu 8 testun:

Uned 1

  1. Gwyddor Planhigion 1: darparu gwybodaeth greiddiol am y planhigyn, ei strwythur a’i swyddogaeth.
  2. Iechyd Planhigion: darparu gwybodaeth greiddiol a dealltwriaeth o effaith ystod o ffactorau ar iechyd planhigion.
  3. Maetheg Planhigion: darparu gwybodaeth arddwriaethol o faetheg planhigion a chyfryngau tyfu.
  4. Manylion Planhigion: darparu gwybodaeth arddwriaethol i wneud argymhellion ar gyfer plannu yn seiliedig ar fatsio anghenion planhigyn a gofynion lleoliad.

Uned 2

  1. Gwyddor Planhigion II: darparu dealltwriaeth o’r ystod o addasiadau planhigion a’u rolau.
  2. Arddulliau Plannu: darparu gwybodaeth arddwriaethol o’r ffactorau sydd ynghlwm wrth greu ystod eang o wahanol fathau o blannu garddwriaethol.
  3. Garddwriaeth a’r Gymdeithas: caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gyfraniad garddwriaeth i’r gymdeithas, gan gynnwys yn gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
  4. Bioamrywiaeth: darparu gwybodaeth gymhwysol o rolau planhigion wrth greu cynefinoedd i annog bioamrywiaeth.

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs hwn symud ymlaen i:

Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol a’r cymhwyster Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygu Planhigion yn llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.

Mae yna hefyd opsiynau i symud ymlaen i Lefel 3.

Asesu'r Rhaglen

Asesir pob uned trwy arholiad ysgrifenedig ar wahân, a gaiff ei osod a'i farcio gan yr RHS. Cynigir arholiadau ddwywaith y flwyddyn ym misoedd Chwefror a Mehefin.

Gofynion y Rhaglen

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith yn y diwydiant neu fod yn arddwyr profiadol.

Does dim cymwysterau mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr arall dalu ffi’r cwrs cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.