Disgrifiad o'r Rhaglen

Côd UCAS: C22

Côd Cwrs: G4HW

Mae'r cwrs llawn amser a rhan-amser hwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y rheiny sy'n camu i fyd ffermio ymarferol, rheoli fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.

Cipolwg

  Llawn Amser / Rhan Amser

  3 blynedd yn Llawn Amser 5 mlynedd yn Rhan-amser  

  Campws Gelli Aur

Nodweddion y Rhaglen

  • Caiff y BSc ei gyflwyno'n llawn amser ac yn rhan-amser, sy'n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno gwaith gydag addysg uwch
  • Mae'r cwrs yn un modiwlaidd a gall y myfyrwyr ennill ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodiwlau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus
  • Mae'r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg

Cynnwys y Rhaglen

Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 1; Sgiliau Astudio mewn Amaethyddiaeth; Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 2 - Ymchwil a Gwerthuso ar Leoliadau; Astudiaeth Arbenigol; Rheoli Busnes ar Dir; Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol; Cnydau Amaethyddol, Gwyddor Planhigion a Phridd; Cynhyrchu Llaeth; Cynhyrchu Bîff; Cynhyrchu Defaid; Tir fel Adnodd; Ecoleg Amaethyddol; Ffermio a'r Amgylchedd; Maetheg Anifeiliaid Fferm; Iechyd Anifeiliaid Fferm; Cynhyrchu Glaswellt a Phorthiant.

Dilyniant a Chyflogaeth

Nod y coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i'r rheiny sy'n bwriadu camu i'r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr busnesau a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol.

Asesu'r Rhaglen

Caiff perfformiad y myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modiwl a chwblhau prosiect mawr.

Gofynion y Rhaglen

Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sy'n dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS.

Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hyn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad yn seiliedig ar eu profiad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC Lefel 3.

Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol,  gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma. 

Costau Ychwanegol

Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion


Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.