Mae'r cwrs llawn a rhan-amser hwn yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y rheiny sy'n camu i fyd ffermio ymarferol, rheoli fferm a diwydiannau gwasanaeth amaethyddol megis Maethegwyr, Ymgynghorwyr, Arolygwyr Llesiant Ffermydd a Masnachwyr Cyflenwadau Amaethyddol.
Cipolwg
Llawn Amser / Rhan Amser
2 flynedd yn llawn amser, 3 blynedd - trwy gael eich rhyddhau am y dydd.
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Caiff y Radd Sylfaen ei chyflwyno'n llawn a rhan-amser, sy'n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno gwaith gydag addysg uwch
Mae'r cwrs yn un modiwlaidd a gall y myfyrwyr ennill ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodiwlau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus
Cynnwys y Rhaglen
Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 1; Sgiliau Astudio mewn Amaethyddiaeth; Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 2 - Ymchwil a Gwerthuso ar Leoliadau; Astudiaeth Arbenigol; Rheoli Busnes ar Dir; Gwyddor Anifeiliaid Amaethyddol; Cnydau Amaethyddol, Gwyddor Planhigion a Phridd; Cynhyrchu Llaeth; Cynhyrchu Bîff; Cynhyrchu Defaid; Tir fel Adnodd; Ecoleg Amaethyddol; Ffermio a'r Amgylchedd; Maetheg Anifeiliaid Fferm; Iechyd Anifeiliaid Fferm; Cynhyrchu Glaswellt a Phorthiant.
Dilyniant a Chyflogaeth
Nod y coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i'r rheiny sy'n bwriadu camu i'r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr busnesau a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol.
Ar ôl cwblhau’r Radd Sylfaen yn llwyddiannus gall myfyrwyr symud ymlaen i’r rhaglen gradd BSc mewn Amaethyddiaeth.
Asesu'r Rhaglen
Caiff perfformiad y myfyrwyr ei fonitro trwy aseiniadau, asesu parhaus, arholiadau, gwaith ymarferol, asesu ar ddiwedd modiwl a chwblhau prosiect mawr.
Gofynion y Rhaglen
Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sy'n dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS.
Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hyn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad yn seiliedig ar eu profiad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC Lefel 3.
Nid oes unrhyw ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol am gyfarpar personol ac am deithiau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.