Mae’r cwrs hwn yn gwrs lefel tri llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch.
Mae’r cwrs dwy flynedd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau craidd a ofynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth fel arferion gwaith diogel, hwsmonaeth da byw, cynhyrchu cnydau a gweithredu peiriannau amaethyddol yn ogystal â sgiliau busnes. Maen nhw’n eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pwnc hwn neu bynciau cysylltiedig.
Bydd yn ofynnol hefyd i chi gwblhau lleoliad gwaith wyth wythnos yn eich blwyddyn astudio gyntaf.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Gelli Aur
Nodweddion y Rhaglen
Balans ardderchog o wersi ymarferol a theori
Tîm o staff deallus, gofalgar ac ymroddgar
Dulliau addysgu arloesol
Ffermydd ffantastig yn gweithredu fel gofod addysgu awyr agored
Ystod o ymweliadau â diwydiant, ffermydd a sioeau
Ystod o siaradwyr gwadd
Cynnwys y Rhaglen
Egwyddorion Iechyd a Diogelwch
Ymgymryd â, ac adolygu, profiad cysylltiedig â gwaith yn y diwydiannau ar dir
Gweithrediadau peiriannau ym maes y diwydiant ar dir
Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol
Gwyddor Planhigion a Phridd
Ymgymryd â Sgiliau Ystâd
Hwsmonaeth Da Byw
Rheolaeth Busnes yn y Sector Ar Dir
Cynhyrchu Cnydau Porthiant
Iechyd a Maetheg Anifeiliaid Fferm
Rheoli Glaswelltir
Llygredd a Rheoli Gwastraff
Cynhyrchu Llaeth
Cynhyrchu Bîff
Cynhyrchu Defaid
Gwyddor Anifeiliaid Fferm
Cerbydau Pob Tir (ATV) a Wagenni Fforch Godi Delesgopig Tir Garw
Prosiect Arbenigol yn y Sector ar dir
Arferion Gweithdy
Rheoli Llygredd a Rheoli Gwastraff
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl gorffen, gallwch: -
Astudio ar gyfer Gradd Sylfaen Lefel 4
Cofrestru ar Raglen Gradd BSc
Dod yn Brentis ar Fferm
Mae’n bosibl y byddwch yn symud ymlaen i weithio fel Cowmon/Rheolwr Buches, Technegydd Amaethyddol, magwr lloi neu stoc, Gweithredwr Peiriannau
Asesu'r Rhaglen
Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig (synoptig) ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pump TGAU gradd C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf).
Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf)
Fel rheol mae mynediad yn amodol ar gyfweliad a fydd yn dangos addasrwydd at amaethyddiaeth. Mae’n hanfodol cael rhywfaint o brofiad o ffermio’n ymarferol
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons blaenau dur, bŵts diogelwch, oferôls a dillad gwrth-ddŵr eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.