Skip to main content

Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio

Cipolwg

  •  Rhan-amser

  • 18 mis

  • Campws Gelli Aur

Rhaglen lefel 2 yw’r brentisiaeth sylfaen hon ac mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio yn y diwydiant Garddwriaeth.   Bydd myfyrwyr, tra ar y rhaglen hon, yn dysgu, yn datblygu ac yn ymarfer y sgiliau sydd eu hangen yn y sector garddwriaeth i gynnwys sefydlu, rheoli a thyfu planhigion.

Nodweddion y Rhaglen

Cymysgedd o unedau ymarferol seiliedig ar gymhwysedd ac unedau damcaniaethol a fydd yn datblygu sgiliau pwnc dysgwyr. Gall prentisiaid ennill sgiliau mewn garddwriaeth fotanegol, cynnal a chadw gerddi, tai gwydr, ac arddangosfeydd.

Cynnwys y Rhaglen
  • Tystysgrif Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion Garddwriaeth
  • Diploma C&G mewn Garddwriaeth yn y Gwaith - cynhyrchu portffolio o dystiolaeth ar gyfer pob uned ac asesiadau annibynnol. 
  • Sgiliau Hanfodol - Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu
Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i gymwysterau lefel uwch gan gynnwys cymwysterau L3, cyrsiau prifysgol a/neu raglenni prentisiaeth uwch. Mae llawer o’r rheiny sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn mynd ymlaen i gyfleoedd cyflogaeth yn y sector sy’n cynnwys Garddwr, Tirluniwr, Gweithiwr Meithrinfa Blanhigion, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gofalwr y Grîn a Thirmon.

Dull asesu

Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Garddwriaeth, fodd bynnag, byddai profiad yn y sector hwn yn fanteisiol. Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a'i gymeradwyo'n llawn gan y cyflogwr. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol L1 mewn Cyfathrebu Chymhwyso Rhif. Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.