Mae’r theatr yn Yr Efail yn gyfleuster proffesiynol hyblyg gyda’r cyfarpar sain, fideo a goleuadau mwyaf diweddar. Mae yno seddau codadwy ar gyfer 120 ond gellir ehangu’r rhain i 160 gyda rhesi ychwanegol, a’u cyflunio mewn amrywiaeth o osodiadau yn cynnwys ar gyfer cynhadledd, cabaret, “llwyfan canolog” a llwyfan traws. Mae gan y gofod amryw o oleuadau symudol LED newydd yn ogystal â 48 sianel o bylwyr confensiynol.
Gyda dwy ystafell newid fodern wedi’u cyfarparu’n llawn a bae golygfeydd mawr, caiff y gofod tra amlbwrpas hwn ei ddefnyddio gan ein holl gyrsiau Diwydiannau Creadigol ar gyfer perfformiadau, addysgu a sesiynau gweithdy. Hefyd mae’r cyfleuster hwn yno i gael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN