Skip to main content

Ambassador Scholarships.

Mae Coleg Sir Gâr yn rhoi tua 60 Ysgoloriaeth Llysgennad bob blwyddyn i fyfyrwyr Addysg Bellach sy’n dechrau ar gwrs Lefel 3 am y tro cyntaf. Dylai ymgeiswyr yn ddelfrydol fod wedi cyfrannu at fywyd y gymuned ysgol a phrofi eu bod wedi cyflawni rhywbeth. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn hyderus ac yn gymwys wrth gyfathrebu a dylent fod yn barod i gyfrannu trwy gynorthwyo mewn nifer o ddigwyddiadau’r Coleg drwy gydol y flwyddyn o fis Rhagfyr 2023 i fis Rhagfyr 2024. Mae hwn yn gyfle ardderchog i ddatblygu eich sgiliau arwain a chyfathrebu ymhellach. Tra byddwch chi’n cefnogi bywyd y Coleg, gall y Coleg roi cyfle i chi gymryd rhan mewn rhaglen a fydd yn sicr o fantais i chi wrth i chi gyflwyno ceisiadau i fynd i Brifysgol ac am swyddi.

Mae myfyrwyr Llysgennad blwyddyn gyntaf ar gyrsiau newydd yn derbyn dillad Llysgennad ynghyd â chymorth ariannol (£100 a delir mewn dau randaliad ym mis Rhagfyr 2023 a mis Gorffennaf 2024). Gall hyn gyfrannu at gostau’r Coleg megis llyfrau, teithio, llety, cyfarpar ac ati.

Mae Myfyrwyr Llysgennad Blwyddyn Gyntaf ar Gyrsiau Newydd yn atebol i:

  • Cyfarwyddwyr Campw,
  • Rheolwyr Cyfadran,
  • aelodau dynodedig o Dimau Rheoli’r Cyfadran, Christy Anson-Harries,
    Cyfarwyddwr Recriwtio, Dilyniant a Phartneriaethau a
  • Mandy Wyrwoll, Rheolwr Marchnata.

Penodir myfyrwyr am flwyddyn o fis Rhagfyr 2023 i fis Rhagfyr 2024 - DS:

  • Myfyrwyr Sylfaen Celf am 6 mis - Rhagfyr 2023 - Gorffennaf 2024.
  • Bydd gofyn i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymgymryd â’r rôl gyflwyno cais byr ym mis Medi 2023 ac, os ydynt yn llwyddiannus,  mynd am gyfweliad ym mis Hydref 2023.
RÔL Y LLYSGENNAD
  • Hyrwyddo’r Coleg cyfan yn fewnol ac yn allanol, gan hyrwyddo’r Cyfadran astudio priodol hefyd yn ôl y gofyn
  • Mae’n debygol y gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus helpu gyda Cyflwyniadau hyrwyddol, ar-lein ac yn bersonol
  • Bod ar gael yn ôl gofyn y Gyfarwyddiaeth Dilyniant Dysgwyr a Chyfarwyddwyr Cyfadrannau i gynorthwyo gyda’r 
    digwyddiadau canlynol:
    • Nosweithiau Agored, rhithiol a ffisegol
    • Nosweithiau Gwobrwyo
    • Nosweithiau Rhieni
    • Sgyrsiau Diwrnod Rhagflas i Ysgolion Partner a gynhelir mewn Ysgolion
    • Sesiynau Diwrnod Rhagflas i Ysgolion Partner a gynhelir yn y Coleg
    • Sgyrsiau Blwyddyn 11 i Ysgolion Partner ym mis Medi 2023
    • Croesawu gwesteion pwysig i Goleg Sir Gâr
MEINI PRAWF DEWIS
  • Prawf o gyflawniad yn yr Ysgol Uwchradd gyda thystiolaeth o fod wedi cyfrannu at fywyd yn yr ysgol
  • Natur ddymunol, personoliaeth gynnes
  • Gallu cyfathrebu’n rhwydd ac yn effeithiol
  • Hyderus ac yn medru dangos y gallu i ddatblygu potensial fel arweinydd ymhellach
  • Parodrwydd i ymgysylltu â phartneriaid presennol a phosibl, a’r cyhoedd
I WNEUD CAIS

Dylid cyflwyno ceisiadau i’ch prif swyddfa gampws cyn 4pm ar ddydd Gwener 27 Hydref 2023 at sylw’r Christy Anson-Harries, Cyfarwyddwr Recriwtio, Dilyniant a Phartneriaethau.

Y WEITHDREFN DDEWIS

Wrth ystyried ceisiadau, rhoddir ystyriaeth i’r holl feini prawf dewis perthnasol. Dewisir ar sail gwybodaeth a ddarperir ar ffurflen
gais yr Ysgoloriaeth Llysgennad, a gwneir y penderfyniad terfynol mewn cyfweliad / clyweliad gan Banel Dyfarnu Ysgoloriaethau Llysgenhadon ym mis Hydref 2023.

RHOI GWYBOD AM DDYFARNIADAU

Cysylltir ag ymgeiswyr drwy e-bost ym mis Tachwedd cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r holl gyfweliadau. Mae’r Panel Dyfarniadau’n cadw’r hawl i newid unrhyw benderfyniad a wneir.

I GRYNHOI
  • Oes gennych chi natur ddymunol, cwrtais, moesgar a chroesawgar?
  • Ydych chi’n gallu gweithio’n hawdd o fewn tîm?
  • Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da?
  • Ydych chi’n frwdfrydig ac ar dân dros eich pynciau/maes galwedigaethol/coleg?
  • Oes gennych chi’r hyder i ymgysylltu â darpar fyfyrwyr, rhieni, cyflogwyr, ymwelwyr pwysig?
  • Fyddech chi’n fodlon cyfrannu at ddigwyddiadau’r Coleg megis diwrnodau agored, diwrnodau rhagflas ysgolion partner, digwyddiadau arbennig?

Os mai ‘Ie’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, cysylltwch â ni a chyflwynwch gais i ddod yn Llysgennad.
Ewch i siarad â’ch Tiwtor Personol, Arweinydd eich Cwrs, Rhieni/
Gwarcheidwaid a fydd i gyd yn barod iawn i gynnig cyngor ac arweiniad i chi gyda’ch cais.
DS.: Y Calendr Digwyddiadau dros dro 2023/2024 i’r holl ymgeiswyr.
Cymerir gofal mawr er mwyn sicrhau bod pob Llysgennad yn cyfrannu at ran o raglen ddigwyddiadau’r coleg/campws yn unig, gan sicrhau nad yw rôl y Llysgennad yn amharu ar raglenni astudio yn y Coleg.

PENODI LLYSGENHADON MYFYRWYR MAES CWRICWLWM ADDYSG BELLACH 2IL FLWYDDYN MEHEFIN 2023 - MEHEFIN 2024

Mae 48 o swyddi ar gael ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 23/24 ar gyfer myfyrwyr AB blwyddyn 1af i ddod yn Llysgenhadon Myfyrwyr Cyfadran yn eu 2il flwyddyn o astudio 2022-2023. hy. chwech ym mhob Cyfadran.

Caiff myfyrwyr sy’n cwblhau eu cwrs blwyddyn 1af ac sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn eu gwahodd gan Dimau Rheoli Cyfadran i ddod yn Llysgenhadon 2il Flwyddyn am flwyddyn rhwng Mehefin
2023 a Mehefin 2024.

Ni fydd myfyrwyr 2il flwyddyn sy’n Llysgenhadon yn derbyn cymorth ariannol ond rhoddir dillad Llysgennad iddynt. Bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn medru cyfeirio at eu rolau fel Llysgenhadon Cyfadran
wrth wneud ceisiadau ar gyfer Addysg Uwch a gwaith.

Mae myfyrwyr 2il flwyddyn sy’n Llysgenhadon yn atebol i’r:
Rheolwyr Cyfadran a/neu aelodau dynodedig o Dîm Rheoli’r Cyfadran.

RÔL
  • Cefnogi Timau Rheoli Cyfadran a darlithwyr pynciau penodol wrth gefnogi’r broses o gyflwyno a hyrwyddo darpariaeth y Cyfadran

  • Bod ar gael i fentora a chefnogi myfyrwyr newydd a Llysgenhadon Myfyrwyr blwyddyn 1 yn ôl gofynion y
    Tîm Rheoli

  • Cynorthwyo mewn Nosweithiau Agored, diwrnodau gwobrwyo ac unrhyw achlysuron neu ddigwyddiadau nodedig eraill ar galendr y Cyfadran

  • Cynorthwyo trwy gwrdd â gwesteion y Cyfadran ac edrych ar eu hôl, e.e. cyfweliadau myfyrwyr, Diwrnodau Cofrestru, Nosweithiau Rhieni, Diwrnodau Rhagflas yr Ysgol, Siaradwyr
    Gwadd, Ymweliadau gan Gyflogwyr, Pwyllgorau Ymgynghorol, Digwyddiadau Partneriaid, Sesiynau Mwy Galluog a Thalentog

  • Cynorthwyo staff y Cyfadran wrth wneud cyflwyniadau mewn
    digwyddiadau hyrwyddo

MEINI PRAWF DEWIS
  • Presenoldeb, dyfalbarhad a chyrhaeddiad da iawn yn ystod y
    flwyddyn flaenorol 2022-23 o fewn y Cyfadran
  • Cyfathrebwyr hyderus ac effeithiol
  • Natur gynnes a chroesawgar, yn barod i ymgysylltu ag ymwelwyr a chwrdd â phobl newydd
  • Model rôl y gall darpar fyfyrwyr a myfyrwyr blwyddyn gyntaf uniaethu’n hawdd ag ef/hi
  • Dangos sgiliau arwain profedig
  • Wedi derbyn gwobr myfyriwr y mis yn y flwyddyn gyntaf (os yw’n berthnasol i’r Cyfadran)
  • Bodloni gofynion penodol y Cyfadran fel y’u nodir gan y Tîm Cyfadran

FFURFLEN GAIS

Powered by BreezingForms

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.