Skip to main content

Prentisiaeth Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau Lefel 5

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 36 Mis

  • PCYDDS - Campws Abertawe

Mae’r diwydiant adeiladu yn parhau i gynnig cyflogaeth werth chweil a pharhaus yn y DU a thramor, o godi tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, i gyd yn cael eu cyflawni gyda chefnogaeth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol.

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r prentisiaethau Rheolaeth Adeiladu / Syrfeo Meintiau yn cynnig  dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r dechreuad i’r amser pan y’u trosglwyddir i Gleient, gan dynnu ar astudiaethau achos y DU a rhai byd-eang er mwyn adeiladu gwybodaeth o ran defnyddio sgiliau’n ymarferol a phroffesiynol ar gyfer cyflogaeth.

Cynnwys y Rhaglen
  • Diploma Cenedlaethol Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau
  • Diploma NVQ Lefel 5 Edexcel mewn Rheolaeth Adeiladu (Cynaladwyedd)
  • Sgiliau Hanfodol
  • Cymhwyso rhif Lefel 2 a Chyfathrebu Lefel 2
Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd y rhaglen hon yn bodloni gofynion y diwydiant, ac wrth wneud hynny’n darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n heriol yn ddeallusol sy’n gysylltiedig â diwydiant a chyrff proffesiynol, gofyniad sy’n diwallu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. 

At hynny, mae tîm y rhaglen wedi datblygu nodau’r cwrs er mwyn gwella datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion presennol y diwydiant am reolwyr canol.  

Mae deilliannau modiwlau’n mynd i'r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau ynghyd â deilliannau mwy cyfarwydd fel damcaniaethau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion cleientiaid. Yn ychwanegol at y rhain mae amrywiaeth o sgiliau lefel uwch sydd wedi'u cynllunio i integreiddio â deilliannau’r modiwlau.    

Dull asesu
  • NVQ - Portffolio o dystiolaeth
  • Diploma Cenedlaethol Uwch - Arholiad ysgrifenedig, Tasgau gosod/Asesiad Synoptig
  • Sgiliau hanfodol - Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan
Gofynion Mynediad

Rhaid i bob prentis fod yn gyflogedig ac yn cael ei gefnogi a’i gymeradwyo’n llawn gan y cyflogwr.  Rhaid iddo feddu ar gymhwyster lefel tri perthnasol ac yn ddelfrydol meddu ar raddau C neu uwch mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol yn ystod eu hastudiaethau ond darperir cefnogaeth.

Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

Costau Ychwanegol

Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.