Skip to main content

Prentisiaeth - Adeiladu, Technegol - Yr Amgylchedd a Dylunio Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen


Adeiladu yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y DU ac mae disgwyl i Adeiladu yng Nghymru dyfu’n gynt nag unrhyw le arall yn y wlad. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn amcangyfrif y bydd twf sylweddol mewn cyflogaeth dros y pum mlynedd nesaf.  Mae llawer o'r meysydd twf hyn o fewn y diwydiant yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa cyffrous i dechnegwyr adeiladu mewn ystod eang o ddisgyblaethau.

Mae’r fframwaith prentisiaeth hwn ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio, yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig fel technegwyr dylunio, a all fod yn ymwneud â llunio datrysiadau dylunio, tirfesuriadau, lluniadau a pharatoi tendrau.

Cipolwg

  Rhan Amser

  24 mis

  Campws Rhydaman

Nodweddion y Rhaglen


Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dymuno dysgu am sut mae adeiladau, seilwaith,

ac amgylcheddau tirluniau yn cael eu creu a’u cynnal a’u cadw. Bydd astudio'r cymhwyster hwn yn agor drws byd y sector amgylchedd adeiledig sy'n cwmpasu pob agwedd ar greu ein trefi a'n dinasoedd i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Dilyniant a Chyflogaeth


Bydd cwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i gymwysterau lefel uwch gan gynnwys cyrsiau prifysgol a/neu raglenni prentisiaethau uwch.

Mae llawer o’r rheiny sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn mynd ymlaen i swyddi dan hyfforddiant yn y rolau canlynol - Technegwyr dylunio adeiladu gan gynnwys technolegwyr pensaernïol, syrfeo adeiladau, mesur meintiau a rolau rheoli prosiectau/adeiladu.

Asesu'r Rhaglen


  • NVQ - Portffolio o dystiolaeth
  • Diploma Cenedlaethol Uwch - Arholiad ysgrifenedig, Tasgau gosod/Asesiad Synoptig
  • Sgiliau hanfodol - Asesiadau ar-lein/yn y ganolfan

Cynnwys y Rhaglen


Diploma NVQ Lefel 3 Dylunio’r Amgylchedd Adeiledig 601/2668/1

Diploma Cenedlaethol Lefel 3 Pearson BTEC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig 603/0864/3

Sgiliau Hanfodol

Bydd y meysydd astudio’n cynnwys Egwyddorion adeiladu, Dyluniadau adeiladu, Iechyd a Diogelwch ym Maes Adeiladu, Technoleg adeiladu, syrfeo, manylu graffigol a rheoliadau adeiladu.

Gofynion Mynediad


Rhaid bod pob prentis yn meddu ar statws cyflogedig ac yn cael ei gefnogi'n llawn a'i gymeradwyo gan y cyflogwr. Rhaid bod ganddo 5 neu fwy TGAU (neu gyfwerth), ar radd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer gweithwyr cyflogedig newydd a phresennol.

Costau Ychwanegol


Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.