Lles Mentor

Gwasanaethau Mentora

Mae Mentoriaid Lles ar gael i chi ar draws pob campws ar gyfer gwaith grŵp neu gymorth un i un sy'n fwy ymlaciol a chyfrinachol.  Hefyd mae gennym ni adnoddau
ar-lein rhagorol y gallech eu cael yn ddefnyddiol iawn.

Mae Mentor Lles ar gael i'ch helpu a'ch cynghori ar ystod eang o bethau a bydd yn eich cefnogi cymaint ag y gallant er mwyn goresgyn rhwystrau sy'n effeithio ar eich astudiaethau.

Gallwch chi wneud apwyntiad gyda mentor yn hawdd a gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd sy'n gyfleus i chi.  

Naill ai galwch heibio eu swyddfeydd a gofyn i gael trefnu amser sy’n gyfleus ar eich cyfer, gofynnwch i’ch tiwtoriaid i drefnu’r apwyntiad, neu gallwch anfon e-bost atynt yn uniongyrchol.    

Weithiau mae cyfeiriadau’n cael eu gwneud i’r tîm gan asiantaethau allanol sy’n eich cefnogi, neu gan eich tiwtor yn y coleg. Y naill ffordd neu’r llall, byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol gyda chi a byddwn yn sicrhau bod y lefel gywir o gymorth ar waith i chi, a gyda’r person iawn.

Mae pob dysgwr yn gallu cael mynediad i'r cymorth, a chyhyd â bod y mentoriaid yn gwybod beth all y broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu.  Maen nhw hefyd ar gael i siarad â’ch tiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn ddigon hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r hyder a'r gwytnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.  

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau pontio a gweithdai wythnosol ar amrywiol bynciau i helpu adeiladu hyder a gwytnwch. 

Gall y gefnogaeth hon gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y Mentoriaid Lles wneud i chi.

Swyddogion Lles Mentoriaid

Mae tîm o Swyddogion Lles cyfeillgar yma i’ch cefnogi gyda phob agwedd ar fywyd coleg.  

Gallai hyn gynnwys eich helpu gyda cheisiadau cyllid myfyrwyr, cyfeirio at wasanaethau cefnogi eraill o fewn y tîm neu’r coleg, neu hyd yn oed yn allanol, gweithio gyda chi fel cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr neu gynrychiolydd dosbarth a llawer mwy.

Ein Swyddogion Lles yw:

Debbie Williams

Campysau’r Graig a Rhydaman

Ann Thomas

Pibwrlwyd, Ffynnon Job a’r Gelli Aur

Ffion Evans

Aberystwyth ac Aberteifi

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.