Sarah yw Rheolwr y Ganolfan yng Nghanolfan Fynediad Coleg Sir Gâr. Mae hi’n gyfrifol am reoli’r staff ac mae hi’n goruchwylio pob adran o fewn y Ganolfan. Yn ogystal, mae rôl Sarah yn cynnwys asesu myfyrwyr sy’n derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a gwneud argymhellion ar gyfer yr Adroddiad Asesu Anghenion. Mae Sarah wedi gweithio yn y Coleg ers dros 20 mlynedd ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o fewn Addysg a Chymorth ar gyfer Anabledd.
E-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Kathryn Rowlands – Uwch Aseswr Anghenion
Kathryn yw’r Uwch-aseswr Anghenion yng Nghanolfan Fynediad Coleg Sir Gâr. Mae ei rôl yn cynnwys asesu myfyrwyr sy’n derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a gwneud argymhellion ar gyfer yr Adroddiad Asesu Anghenion. Mae Kathryn wedi gweithio yn y Coleg ers dros 16 mlynedd. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiol adrannau ac mae ganddi brofiad helaeth yn cefnogi myfyrwyr ag Anableddau.
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Maureen Williams – Cynorthwy-ydd Gweinyddol y Ganolfan Asesu
Mae Maureen yn cynorthwyo â’r dyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan Fynediad. Mae hi’n gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr ynghylch y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, adrodd am gymeradwyaeth ac adborth. Yn ogystal, mae Maureen yn gweithio’n agos gyda Thimau Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgol a Chyrff Ariannu hefyd.
E-bost:Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.