Skip to main content

Rhyddid Gwybodaeth.

Rhyddid Gwybodaeth – Diweddarwyd fis Mehefin 2014

Canllaw i wybodaeth

Mae’n ofynnol fod pob corff sy’n derbyn arian cyhoeddus, megis y Coleg, yn cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Ddeddf hon yn hyrwyddo diwylliant mwy agored ac atebol yn y sector cyhoeddus trwy fynnu bod pob ‘awdurdod cyhoeddus’ yn mynd ati i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, a hynny trwy gynllun cyhoeddi.

Mae cynllun cyhoeddi yn disgrifio’r wybodaeth y mae awdurdod cyhoeddus yn ei chyhoeddi, neu’n bwriadu ei chyhoeddi. Mae Coleg Sir Gâr wedi mabwysiadu’r cynllun cyhoeddi model a ddatblygwyd ar gyfer y sector Addysg Bellach sydd ar gael o Wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Byddwch yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth a gedwir gennym nad yw eisoes ar gael trwy ein cynllun cyhoeddi. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i ni ryddhau gwybodaeth y mae eithriad yn y Ddeddf yn berthnasol iddi. Mewn amgylchiadau o’r fath byddwn yn esbonio i chi pam nad ydym yn rhyddhau’r wybodaeth.

Dylid gwneud ceisiadau am wybodaeth ychwanegol yn ysgrifenedig a byddwn yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, pan fyddwn yn mynd i gostau hyd at y terfyn priodol (h.y. £450), efallai y bydd angen i ni godi ffi, a fydd yn cael ei chyfrifo yn ôl y rheoliadau ffioedd a gyhoeddwyd trwy wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. I ofyn am wybodaeth nad yw ar gael trwy ein gwefan neu mewn fformat gwahanol, e-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld. Mae’n bwysig bod ein cynllun cyhoeddi yn diwallu eich anghenion. Os ydych yn gweld y cynllun yn anodd ei ddeall, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynglyn â sut y gellid gwella ein cynllun. Dylid anfon unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y cynllun hwn yn ysgrifenedig i’r cyswllt uchod.

Os nad ydym yn gallu datrys unrhyw gwyn, gallwch gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.