Rhaglen Hyfforddeiaeth.
Cymhwyster: 16 - 18 oed, newydd adael yr ysgol, Yn ddi-waith
Beth yw Hyfforddeiaeth?
- Bydd Hyfforddeiaeth yn darparu'r cymorth, y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i fyd gwaith, Prentisiaeth neu barhau i ddysgu ar lefel uwch
- Rhaid i chi fod rhwng 16-18 oed ac wedi gadael yr ysgol
- Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y rhaglen Ymgysylltu a Lefel 1 (Ymgysylltu £30 yr wythnos a Lefel 1 £50 yr wythnos)
- Rhaid i chi fynychu'r rhaglen Ymgysylltu am 21 awr yr wythnos i dderbyn £30 yr wythnos
- Rhaid i chi fynychu'r rhaglen Lefel 1 am 37.5 awr yr wythnos i dderbyn £50 yr wythnos
- Hefyd, gallwch chi gael cymorth gyda chostau teithio
- Bydd eich hyfforddiant yn dechrau gyda sesiwn gynefino yn y coleg lle byddwch yn cwrdd â'ch ymgynghorydd hyfforddi ac yn cytuno ar eich cynllun dysgu unigol a phenderfynu ar eich lleoliad gwaith
- Nod y rhaglen yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau er mwyn i chi allu symud ymlaen i fyd gwaith, Lefel 1, prentisiaethau neu gwrs coleg llawn amser
Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen bydd angen i chi wneud apwyntiad yn eich swyddfa Gyrfa Cymru leol, lle cewch gyfweliad arweiniol a'ch cyfeirio, gobeithio at y rhaglen Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddeiaeth cysylltwch â: Wyn David, Ymgynghorydd Hyfforddi Rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu