Mae astudio cwrs rhan-amser yng Ngholeg Sir Gâr yn agor llu o gyfleoedd newydd. Gydag ystod eang o gyrsiau rhan-amser i ddewis ohonynt, mae rhywbeth at ddant pawb.
Bydd dewis astudio yng Ngholeg Sir Gâr yn rhoi sgiliau newydd i chi, yn symbylu eich diddordeb ac yn cynyddu eich hyder yn eich bywyd bob dydd. Ni fyddwch ar eich pen eich hun gan y byddwch yn rhannu eich profiad dysgu â chymuned eang o fyfyrwyr o bob oedran a chefndir.
Mae myfyrwyr yn dilyn astudiaethau rhan-amser am resymau gwahanol iawn: mae rhai yn astudio er mwyn gwella eu gobeithion gyrfaol trwy ddatblygu sgiliau proffesiynol; mae rhai yn ceisio newid eu ffordd o fyw trwy ddysgu sgiliau newydd i’w helpu i ddechrau eu busnesau eu hunain, tra bod cryn dipyn o’n myfyrwyr yn dod i ddatblygu neu gychwyn hobi a chwrdd â phobl newydd. Mae’r cyrsiau ar gael i ddysgwyr 16 oed a throsodd.
Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o raglenni addysg a hyfforddiant academaidd a galwedigaethol. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i lefel ôl-raddedig, gan ddarparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, addysg uwch a phrentisiaethau dysgu yn y gweithle.
Am ragor o fanylion, neu i ofyn am daflen gyrsiau, cysylltwch â ni ar 01554 748179 neu anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.